ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3
RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a mangreoeddI17
1
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 11 i 26—
a
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
b
ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.
2
Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
a
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
b
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
c
defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;
d
defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post;
e
defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post.
3
Pan—
a
bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
b
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.