xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 3

RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 2LL+CCyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod a mangreoedd trwyddedig

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diodLL+C

8.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod—

(a)ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;

(b)rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.

(2Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod neu unrhyw fusnes neu wasanaeth arall y mae ei fangre wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol—

(a)gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;

(b)caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4Pan—

(a)bo person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y paragraff hwn, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)