F1ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3
RHAN 3Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysol
8.
(1)
O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 14 i 17 (llety gwyliau neu lety teithio)—
(a)
rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)
ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2)
Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—
(a)
mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu
(b)
mewn mangreoedd ar wahân a hunangynhwysol.
(3)
Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)
gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)
defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)
darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
(i)
nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)
defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)
dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)
drwy’r post.
(4)
Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—
(a)
os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a
(b)
os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—
(i)
ceginau,
(ii)
mannau cysgu,
(iii)
ystafelloedd ymolchi, neu
(iv)
mannau cymunedol o dan do.
(5)
Yn y paragraff hwn—
(a)
nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);
(b)
mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.
(6)
Pan—
(a)
bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)
bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.