ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3
RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI11
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu o’i aelwyd estynedig.
2
At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
a
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
3
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
c
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
d
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
e
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
f
symud cartref;
g
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
h
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
4
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
i
yn byw yn yr un fangre, a
ii
yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
5
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI22
1
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—
a
sy’n digwydd yn unman ac eithrio—
i
mewn annedd breifat, neu
ii
mewn llety gwyliau neu lety teithio, a
b
sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—
i
unrhyw blant o dan 11 oed, na
ii
gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
2
Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—
a
sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu
b
sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—
i
yn aelodau o’r un aelwyd, neu
ii
yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.
3
Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
4
a
os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
b
os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
5
Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
a
cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
b
gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
c
cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
d
darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
e
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
f
symud cartref;
g
ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
h
cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
i
cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
6
Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
a
darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
b
osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
c
mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
i
fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
ii
os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
d
mynd i angladd—
i
fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
ii
os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
iii
fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
e
cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
i
dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
ii
dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;
f
mynd i addoldy;
g
athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
h
darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
i
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
j
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
i
lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
ii
lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
k
cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
7
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedigI33
1
Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
2
Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.
3
Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
4
Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F1ar unrhyw un adeg.
F25
Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.
6
Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—
a
paragraff 3 o Atodlen 2, neu
b
paragraff 3 o Atodlen 4,
mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
7
Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael eu trin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
8
Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F3oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno.
9
Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.