ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat

1.

(1)

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu o’i aelwyd estynedig.

(2)

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

(3)

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)

symud cartref;

(g)

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(4)

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)

yn byw yn yr un fangre, a

(ii)

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

(5)

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus

2.

(1)

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

(a)

sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

(i)

mewn annedd breifat, neu

(ii)

mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

(b)

sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—

(i)

unrhyw blant o dan 11 oed, na

(ii)

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(2)

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

(a)

sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

(b)

sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—

(i)

yn aelodau o’r un aelwyd, neu

(ii)

yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.

(3)

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

(4)

At ddibenion is-baragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5)

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(d)

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)

symud cartref;

(g)

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(6)

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(d)

mynd i angladd—

(i)

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(e)

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

(ii)

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

(f)

mynd i addoldy;

(g)

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

(h)

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

(i)

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)

lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

(ii)

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(j)

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

(ii)

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(k)

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

(7)

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedig

3.

(1)

Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

(2)

Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

(3)

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.

(4)

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig.

(5)

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 1 dim ond rhwng yr aelwydydd hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn.

(6)

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

(a)

paragraff 3 o Atodlen 2, neu

(b)

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

(7)

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael eu trin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(8)

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall.

(9)

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.