xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 3LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 3

RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a mangreoeddLL+C

7.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 11 i 26

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3Pan—

(a)bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CCyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod a mangreoedd trwyddedig

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diodLL+C

8.—(1O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod—

(a)ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;

(b)rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.

(2Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod neu unrhyw fusnes neu wasanaeth arall y mae ei fangre wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol—

(a)gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;

(b)caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4Pan—

(a)bo person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y paragraff hwn, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod: eithriadauLL+C

9.—(1Nid yw paragraff 8(1) yn gymwys i—

(a)mangre mewn—

(i)porthladd môr;

(ii)maes awyr;

(iii)sefydliad addysgol;

(iv)ysbyty neu gartref gofal;

(b)ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;

(c)mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref.

(2Nid yw paragraff 8(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.

(3Os—

(a)yw dathliad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu briodas arall yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre y mae paragraff 8 yn gymwys iddi, a

(b)archebwyd y dathliad fwy nag wythnos cyn y dechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys ddiweddaraf i’r ardal y mae’r fangre wedi ei lleoli ynddi,

caiff y fangre, er gwaethaf paragraff 8(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.

(4Mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre llety gwyliau neu lety teithio.

(5Nid yw paragraff 8(1)

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;

(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—

(i)fel rhan o wasanaeth ystafell, neu

(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.

(6Nid yw paragraff 8(1) na (2)

(a)yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;

(b)yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 10).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigLL+C

10.—(1Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i alcohol gael ei werthu na’i gyflenwi yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CRhestr o fangreoedd sydd ar gau

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoeddLL+C

11.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

12.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

13.  Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

14.  Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

15.  Casinos.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

16.  Neuaddau bingo.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

17.  Arcedau diddanu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

18.  Alïau bowlio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

19.  Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

20.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

21.  Amgueddfeydd ac orielau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

22.  Rinciau sglefrio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

23.  Parciau a chanolfannau trampolîn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

24.  Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

25.  Sbaon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

26.  Atyniadau i ymwelwyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)