F1ATODLEN 3ACyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

RHAN 1Cyfyngiad ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithio

2.

(1)

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

(2)

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

(3)

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

(4)

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

(5)

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.