[F1ATODLEN 3ALL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

Diwygiadau Testunol

RHAN 2LL+CCyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauLL+C

5.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau F2... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

[F3(1A) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5A.]

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

(i)arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

(ii)perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

(iii)marchnad;

(iv)gwasanaeth crefyddol;

(v)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.]