xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 3A wedi ei fewnosod (27.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 (O.S. 2021/413), rhlau. 1(2), 2(4)
Diwygiadau Testunol
F2Atod. 3A para. 5A wedi ei fewnosod (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(15)(e)
7.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw [F4ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod], a
F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre ar gyfer—
(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
[F6(ca)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;]
(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 3A para. 7 pennawd wedi eu mewnosod (26.4.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(4), 2(15)(f)(i)
F4Geiriau yn Atod. 3A para. 7(1)(a) wedi eu hamnewid (26.4.2021 am 6.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(4), 2(15)(f)(ii)(aa)
F5Atod. 3A para. 7(1)(b) wedi ei hepgor (26.4.2021 am 6.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(4), 2(15)(f)(ii)(bb)
8.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—
(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu
(b)mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.
(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—
(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a
(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—
(i)ceginau,
(ii)mannau cysgu,
(iii)ystafelloedd ymolchi, neu
(iv)mannau cymunedol o dan do.
(5) Yn y paragraff hwn—
(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);
(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.
(6) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
9.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym [F8mharagraff 19] sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan [F9is-baragraff (2)] .
(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)[F10at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion] Cymru neu awdurdod lleol.
F11(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—
(a)canolfan gymunedol;
F12(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F13(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .]]
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn Atod. 3A para. 9 pennawd wedi eu hepgor (12.4.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(i)
F8Geiriau yn Atod. 3A para. 9(1) wedi eu hamnewid (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(ii)(aa)
F9Geiriau yn Atod. 3A para. 9(1) wedi eu hamnewid (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(ii)(bb)
F10Geiriau yn Atod. 3A para. 9(2)(b) wedi eu hamnewid (12.4.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(iii)
F11Atod. 3A para. 9(3) wedi ei hepgor (12.4.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(iv)
F12Atod. 3A para. 9(4)(b) wedi ei hepgor (12.4.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(v)
F13Atod. 3A para. 9(5) wedi ei hepgor (12.4.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/457), rhlau. 1(2), 2(16)(e)(vi)