Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

[F1[F2RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau [F3mangreoedd o dan do] busnesau bwyd a diodLL+C

7.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw [F4ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod], a

F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre ar gyfer—

(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

[F6(ca)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;]

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysolLL+C

8.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—

(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu

(b)mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.

(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—

(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a

(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—

(i)ceginau,

(ii)mannau cysgu,

(iii)ystafelloedd ymolchi, neu

(iv)mannau cymunedol o dan do.

(5) Yn y paragraff hwn—

(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);

(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.

(6) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau canolfannau cymunedol F7...LL+C

9.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym [F8mharagraff 19] sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan [F9is-baragraff (2)] .

(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)[F10at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion] Cymru neu awdurdod lleol.

F11(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—

(a)canolfan gymunedol;

F12(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F13(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

PENNOD 2LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethauLL+C

10.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau [F1424 i 44]

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

[F15(1A) O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 33, 34, 35, 37, 39, 40 a 41, nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

(a)ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu

(b)ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—

(i)i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,

(ii)am resymau iechyd a diogelwch, neu

(iii)i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.]

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—

[F16(a)a restrir ym mharagraff 39 neu 42 (sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;]

F17(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gauLL+C

11.(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

(a)caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau [F1851 a 52] barhau i fod ar agor;

(b)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

[F19(c)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;]

F20(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F21(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—

(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu

(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.

PENNOD 4LL+CRhestr o fangreoedd sydd ar gau

Mangreoedd sydd ar gauLL+C
Busnesau bwyd a diodLL+C

12.  Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

13.  Tafarndai.

14.  Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithioLL+C

15.  Safleoedd gwersylla.

16.  Safleoedd gwyliau.

17.  Gwestai a llety gwely a brecwast;

18.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C

19.  Canolfannau cymunedol.

F2220.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwasanaethau personol etc.LL+C

F2221.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2222.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2223.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hamdden a chymdeithasol etc.LL+C

24.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

25.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

[F2326.  Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.]

Diwygiadau Testunol

[F2427.  Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.]

Diwygiadau Testunol

28.  Casinos.

29.  Neuaddau bingo.

30.  Arcedau diddanu.

31.  Alïau bowlio.

32.  Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

33.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

34.  Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

35.  Amgueddfeydd ac orielau.

36.  Rinciau sglefrio [F25].

Diwygiadau Testunol

F25Geiriau yn Atod. 3A para. 36 ei mewnosod (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(15)(k)

37.  Parciau a chanolfannau trampolîn.

38.  Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

39.  Sbaon.

40.  Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

[F2641.  Atyniadau i ymwelwyr.]

Diwygiadau Testunol

Chwaraeon ac ymarfer corffLL+C

42.  Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.

[F2743.  Pyllau nofio o dan do.]

Diwygiadau Testunol

44.  Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.

Manwerthu etc.LL+C

F2845.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2846.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2847.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Mangreoedd esemptLL+C
Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C

F2848.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2849.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2850.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau bwyd a diodLL+C

51.  Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

52.  Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.LL+C

F2953.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2954.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2955.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2956.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2957.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2958.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2959.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2960.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

61.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

F2962.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2963.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2964.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2965.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2966.]  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .]