Rheoliad 4(6A)
[ATODLEN 3ALL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro
RHAN 1LL+CCyfyngiad ar ymgynnull
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatLL+C
1.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 person ... yn y cynulliad.
(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)unrhyw blant o dan 11 oed [, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd] , neu
(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
[(ba)gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;]
(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)yn byw yn yr un fangre, a
(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithioLL+C
2.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.
[(1A) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.
(1B) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd;
(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.
(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.
[(c)gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(e)cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
(f)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a
(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;
(g)mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.]
(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusLL+C
3.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.
(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—
(a)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu
(b)os nad oes mwy na 6 person ... yn y cynulliad.
(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a)unrhyw blant o dan 11 oed [, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd] , neu
(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.
(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.
(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
(j)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.
(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
[(da)cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—
(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;
(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;]
(e)mynd i addoldy;
(f)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
[(ga)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—
(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a
(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed.]
(h)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).
[(i)mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.]
(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Aelwydydd estynedigLL+C
4.—(1) Caiff aelwyd anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.
(3) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.
(4) Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 4, mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.
(5) Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(6) Mae is-baragraff (7) yn gymwys—
(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a
(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.
(7) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—
(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (2) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a
(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).
(8) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.
(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
(a)aelwyd un oedolyn;
(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion;
(c)aelwyd ag—
(i)2 neu ragor o oedolion,
(ii)1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a
(iii)unrhyw nifer o blant eraill.
RHAN 2LL+CCyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauLL+C
5.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau ... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
[(1A) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5A.]
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;
(ii)perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;
(iii)marchnad;
(iv)gwasanaeth crefyddol;
(v)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.
[Digwyddiadau awdurdodedigLL+C
5A.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—
(a)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu
(b)lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored.
(2) Nid yw cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(3) Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.
(4) O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
(a)rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
(b)manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
(7) Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (6)—
(a)onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennwyd ganddynt, neu
(b)onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.]
[RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar deithio
Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 3 ac o ardal Lefel Rhybudd 3LL+C
6. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol
PENNOD 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt
Cau [mangreoedd o dan do] busnesau bwyd a diodLL+C
7.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw [ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod], a
(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)defnyddio mangre ar gyfer—
(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu
(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;
(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);
(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;
[(ca)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;]
(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.
(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.
(4) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysolLL+C
8.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a
(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—
(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu
(b)mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.
(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—
(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu
(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—
(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a
(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—
(i)ceginau,
(ii)mannau cysgu,
(iii)ystafelloedd ymolchi, neu
(iv)mannau cymunedol o dan do.
(5) Yn y paragraff hwn—
(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);
(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.
(6) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
Cau canolfannau cymunedol ...LL+C
9.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym [mharagraff 19] sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan [is-baragraff (2)] .
(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)[at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion] Cymru neu awdurdod lleol.
(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—
(a)canolfan gymunedol;
(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
PENNOD 2LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd
Cau busnesau a gwasanaethauLL+C
10.—(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau [24 i 44] —
(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a
(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.
[(1A) O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 33, 34, 35, 37, 39, 40 a 41, nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—
(a)ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu
(b)ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—
(i)i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,
(ii)am resymau iechyd a diogelwch, neu
(iii)i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.]
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—
(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;
(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;
(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;
(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post;
(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post.
(3) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—
[(a)a restrir ym mharagraff 39 neu 42 (sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;]
(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Pan—
(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a
(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),
cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.
PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau
Esemptiad rhag y gofyniad i gauLL+C
11.—(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—
(a)caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau [51 a 52] barhau i fod ar agor;
(b)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;
[(c)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;]
(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—
(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu
(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.
PENNOD 4LL+CRhestr o fangreoedd sydd ar gau
Mangreoedd sydd ar gauLL+C
Busnesau bwyd a diodLL+C
12. Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).
13. Tafarndai.
14. Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).
Llety gwyliau neu lety teithioLL+C
15. Safleoedd gwersylla.
16. Safleoedd gwyliau.
17. Gwestai a llety gwely a brecwast;
18. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C
19. Canolfannau cymunedol.
20. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Gwasanaethau personol etc.LL+C
21. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
22. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
23. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Hamdden a chymdeithasol etc.LL+C
24. Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.
25. Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).
[26. Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.]
[27. Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.]
28. Casinos.
29. Neuaddau bingo.
30. Arcedau diddanu.
31. Alïau bowlio.
32. Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.
33. Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.
34. Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.
35. Amgueddfeydd ac orielau.
36. Rinciau sglefrio [iâ].
37. Parciau a chanolfannau trampolîn.
38. Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.
39. Sbaon.
40. Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).
[41. Atyniadau i ymwelwyr.]
Chwaraeon ac ymarfer corffLL+C
42. Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.
[43. Pyllau nofio o dan do.]
44. Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.
Manwerthu etc.LL+C
45. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
46. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
47. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Mangreoedd esemptLL+C
Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C
48. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
49. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
50. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Busnesau bwyd a diodLL+C
51. Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.
52. Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.
Manwerthu etc.LL+C
53. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
54. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
55. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
56. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
57. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
58. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
59. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
60. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
61. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
62. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
63. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
64. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
65. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
66.] . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .]