xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 4(6A)

[F1ATODLEN 3ALL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

Diwygiadau Testunol

RHAN 1LL+CCyfyngiad ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatLL+C

1.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 person F2... yn y cynulliad.

(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed [F3, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd] , neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F4(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

[F5(ba)gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, neu’n cael gwasanaethau oddi wrth berson sy’n gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;]

(c)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)yn byw yn yr un fangre, a

(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

F6(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithioLL+C

2.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

[F7(1A) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

(1B) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd;

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.]

(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

F8(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

[F9(c)gweithio neu’n darparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(e)cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn llety gwyliau neu lety teithio, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(f)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(g)mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.]

(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusLL+C

3.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

(2) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—

(a)os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu

(b)os nad oes mwy na 6 person F10... yn y cynulliad.

(3) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed [F11, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd] , neu

(b)gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

(4) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

(5) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(f)symud cartref;

(g)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(h)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

(j)ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

(6) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(d)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

[F12(da)cymryd rhan mewn cynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;]

(e)mynd i addoldy;

(f)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

(g)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

[F13(ga)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, oni bai bod y gweithgaredd wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed.]

(h)cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

[F14(i)mynd i ddigwyddiad neu’n hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5A.]

F15(7) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(8) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedigLL+C

4.(1) Caiff aelwyd anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

(3) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.

(4) Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 4, mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

(5) Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(6) Mae is-baragraff (7) yn gymwys—

(a)pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

(b)pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

(7) Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (2) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

(b)mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

(8) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.

(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

(10) Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

(a)aelwyd un oedolyn;

(b)aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion;

(c)aelwyd ag—

(i)2 neu ragor o oedolion,

(ii)1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a

(iii)unrhyw nifer o blant eraill.

RHAN 2LL+CCyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauLL+C

5.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau F16... sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

[F17(1A) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5A.]

(2) At ddibenion is-baragraff (1)—

(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

(i)arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

(ii)perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

(iii)marchnad;

(iv)gwasanaeth crefyddol;

(v)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.

[F18Digwyddiadau awdurdodedigLL+C

5A.(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

(a)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

(b)lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored.

(2) Nid yw cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

(3) Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

(4) O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—

(a)rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

(a)awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

(b)manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

(6) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

(7) Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (6)—

(a)onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennwyd ganddynt, neu

(b)onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.]

[F18RHAN 3LL+CCyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 3 ac o ardal Lefel Rhybudd 3LL+C

F196.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4LL+CCyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau [F20mangreoedd o dan do] busnesau bwyd a diodLL+C

7.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw [F21ran o’i fangre sydd o dan do ac a ddefnyddir i fwyta bwyd neu i yfed diod], a

F22(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)defnyddio mangre ar gyfer—

(i)gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

(ii)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

(b)darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

(c)ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

[F23(ca)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;]

(d)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

(3) At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysolLL+C

8.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

(b)ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—

(a)mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu

(b)mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.

(3) Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

(i)nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(ii)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

(d)defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(4) Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—

(a)os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a

(b)os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—

(i)ceginau,

(ii)mannau cysgu,

(iii)ystafelloedd ymolchi, neu

(iv)mannau cymunedol o dan do.

(5) Yn y paragraff hwn—

(a)nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);

(b)mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.

(6) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau canolfannau cymunedol F24...LL+C

9.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym [F25mharagraff 19] sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan [F26is-baragraff (2)] .

(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)[F27at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion] Cymru neu awdurdod lleol.

F28(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—

(a)canolfan gymunedol;

F29(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F30(5) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

PENNOD 2LL+CBusnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethauLL+C

10.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau [F3124 i 44]

(a)rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

(b)ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

[F32(1A) O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 33, 34, 35, 37, 39, 40 a 41, nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i—

(a)ardal gyhoeddus awyr agored o’r fangre, neu

(b)ardal gyhoeddus o dan do o’r fangre pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—

(i)i ganiatáu mynediad i ardal gyhoeddus awyr agored,

(ii)am resymau iechyd a diogelwch, neu

(iii)i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.]

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

(a)gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

(b)defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

(c)defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;

(d)defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(e)defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

(3) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—

[F33(a)a restrir ym mharagraff 39 neu 42 (sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;]

F34(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Pan—

(a)bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

(b)bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 3LL+CBusnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gauLL+C

11.(1) Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

(a)caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau [F3551 a 52] barhau i fod ar agor;

(b)caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

[F36(c)caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;]

F37(2) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F38(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4) Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—

(a)fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu

(b)at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.

PENNOD 4LL+CRhestr o fangreoedd sydd ar gau

Mangreoedd sydd ar gauLL+C
Busnesau bwyd a diodLL+C

12.  Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

13.  Tafarndai.

14.  Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithioLL+C

15.  Safleoedd gwersylla.

16.  Safleoedd gwyliau.

17.  Gwestai a llety gwely a brecwast;

18.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C

19.  Canolfannau cymunedol.

F3920.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwasanaethau personol etc.LL+C

F3921.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3922.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3923.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Hamdden a chymdeithasol etc.LL+C

24.  Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

25.  Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

[F4026.  Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.]

Diwygiadau Testunol

[F4127.  Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.]

Diwygiadau Testunol

28.  Casinos.

29.  Neuaddau bingo.

30.  Arcedau diddanu.

31.  Alïau bowlio.

32.  Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

33.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

34.  Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

35.  Amgueddfeydd ac orielau.

36.  Rinciau sglefrio [F42].

Diwygiadau Testunol

F42Geiriau yn Atod. 3A para. 36 ei mewnosod (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(15)(k)

37.  Parciau a chanolfannau trampolîn.

38.  Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

39.  Sbaon.

40.  Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

[F4341.  Atyniadau i ymwelwyr.]

Diwygiadau Testunol

Chwaraeon ac ymarfer corffLL+C

42.  Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.

[F4443.  Pyllau nofio o dan do.]

Diwygiadau Testunol

44.  Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.

Manwerthu etc.LL+C

F4545.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4546.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4547.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Mangreoedd esemptLL+C
Gwasanaethau cyhoeddus etc.LL+C

F4548.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4549.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4550.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau bwyd a diodLL+C

51.  Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

52.  Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.LL+C

F4653.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4654.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4655.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4656.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4657.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4658.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4659.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4660.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

61.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

F4662.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4663.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4664.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4665.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4666.]  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .]