ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

RHAN 1Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill

Aelwydydd estynedigI13

1

Caiff aelwyd un oedolyn ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.

3

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F1ar unrhyw un adeg .

4

Pan fo aelwyd un oedolyn wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—

a

3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu

b

2 aelwyd arall o dan—

i

paragraff 3 o Atodlen 2, neu

ii

paragraff 3 o Atodlen 3,

F2(“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond rhwng yr aelwyd un oedolyn ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn F3oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol .

5

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

6

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F4oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

7

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.