ATODLEN 4LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

RHAN 1LL+CCyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill

Aelwydydd estynedigLL+C

3.—(1Caiff aelwyd un oedolyn ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

(2Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.

(3Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig [F1ar unrhyw un adeg] .

(4Pan fo aelwyd un oedolyn wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—

(a)3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu

(b)2 aelwyd arall o dan—

(i)paragraff 3 o Atodlen 2, neu

(ii)paragraff 3 o Atodlen 3,

[F2(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),] dim ond rhwng yr aelwyd un oedolyn ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn [F3oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol] .

(5Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(6Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall [F4oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno] .

(7Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.