xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Caiff aelwyd un oedolyn ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
(3) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig [F1ar unrhyw un adeg] .
(4) Pan fo aelwyd un oedolyn wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—
(a)3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu
(b)2 aelwyd arall o dan—
(i)paragraff 3 o Atodlen 2, neu
(ii)paragraff 3 o Atodlen 3,
[F2(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),] dim ond rhwng yr aelwyd un oedolyn ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn [F3oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol] .
(5) Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(6) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall [F4oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno] .
(7) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 4 para. 3(3) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(i)
F2Geiriau yn Atod. 4 para. 3(4) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(ii)(aa)
F3Geiriau yn Atod. 4 para. 3(4) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(ii)(bb)
F4Geiriau yn Atod. 4 para. 3(6) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(iv)(bb)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)