ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4
RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau
Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedigI15
1
Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.
2
O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
a
rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
b
caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
a
awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
b
manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.
4
Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
5
Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)—
a
onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
b
onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.