Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedig
5.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.
(2) O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)—
(a)rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a
(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—
(a)awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a
(b)manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.
(5) Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)—
(a)onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu
(b)onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.
Back to top