Atod. 4 Rhn. 3A wedi ei fewnosod (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(11)
Atod. 4 para. 6B(2)(a) wedi ei amnewid (20.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/172), rhlau. 1(2), 2(7)
Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.
Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—
sefydliad addysg bellach—
i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu
i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;
sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.