xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym mharagraffau 19 ac 20 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan is-baragraffau (2) a (3).
(2) Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—
(a)i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu
(b)i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
(3) Caiff amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd ar gyfer angladdau neu gladdu (ac i ddarlledu angladd neu gladdu pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel arall).
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.
(5) Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)