ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau canolfannau cymunedol F1...

9.

(1)

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym F2mharagraff 19 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan F3is-baragraff (2) .

(2)

Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

(a)

i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

(b)

i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

F4(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F4(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)

Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.