RHAN 1LL+CCyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill
Gofyniad i aros gartrefLL+C
1.—(1) Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw yn cynnwys—
(a)cael cyflenwadau oddi wrth fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 55 i 66 gan gynnwys—
(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu’r aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;
(b)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(g)symud cartref;
(h)cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(i)gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
(j)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(k)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(l)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.
(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;
(c)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;
(d)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(e)mynd i addoldy;
(f)gwneud ymarfer corff, naill ai—
(i)ar ei ben ei hun,
(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd neu aelwyd estynedig y person, F1...
(iii)gyda gofalwr y person [F2, neu]
[F3(iv)gydag 1 person arall nad yw’n aelod o aelwyd neu aelwyd estynedig y person nac yn ofalwr y person, ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall;”;]
(g)athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;
(h)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—
(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu
(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;
(i)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;
(j)teithio i fan neu o fan, neu’n bresennol mewn man, lle y mae aelod o’i aelwyd estynedig yn byw.
(5) Yn is-baragraff (4)(f)—
(a)rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw, neu
(b)pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.
(6) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 4 para. 1(4)(f)(ii) wedi ei hepgor (30.1.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(a)(i)
F2Gair yn Atod. 4 para. 1(4)(f)(iii) ac comma wedi ei amnewid ar gyfer semicolon (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(a)(ii)
F3Atod. 4 para. 1(4)(f)(iv) wedi ei fewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(a)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillLL+C
2.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymgynnull gydag unrhyw berson arall ac eithrio—
(a)aelodau o’i aelwyd,
(b)ei ofalwr, neu
(c)person y mae’n darparu gofal iddo.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—
(a)os yw’r person yn ymgynnull gyda phobl eraill at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu
(b)os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.
(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—
(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(b)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;
(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(d)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(f)symud cartref;
(g)gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;
(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(i)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(j)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;
(k)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.
(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—
(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;
(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—
(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,
(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;
(c)mynd i angladd—
(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(d)mynd i addoldy;
(e)athletwr elît ac sy’n hyfforddi neu’n cystadlu ;
(f)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;
(g)cymryd rhan mewn cynulliad gydag aelodau o’i aelwyd estynedig mewn man lle y mae aelodau o’r aelwyd estynedig yn byw;
(h)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(i)yn byw yn yr un fangre, a
(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.
[F4(i)gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—
(i)gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, neu
(ii)gydag 1 person arall ac unrhyw blant o dan 11 oed sy’n aelodau o aelwyd y naill berson neu’r llall,
ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.]
(5) Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.
Diwygiadau Testunol
F4Atod. 4 para. 2(4)(i) wedi ei fewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
Aelwydydd estynedigLL+C
3.—(1) Caiff aelwyd un oedolyn ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.
(2) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i’r holl aelodau o’r 2 aelwyd sy’n oedolion gytuno.
(3) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig [F5ar unrhyw un adeg] .
(4) Pan fo aelwyd un oedolyn wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—
(a)3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu
(b)2 aelwyd arall o dan—
(i)paragraff 3 o Atodlen 2, neu
(ii)paragraff 3 o Atodlen 3,
[F6(“yr aelwyd estynedig flaenorol”),] dim ond rhwng yr aelwyd un oedolyn ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn [F7oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd un oedolyn gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol] .
(5) Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.
(6) Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall [F8oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno] .
(7) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn Atod. 4 para. 3(3) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(i)
F6Geiriau yn Atod. 4 para. 3(4) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(ii)(aa)
F7Geiriau yn Atod. 4 para. 3(4) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(ii)(bb)
F8Geiriau yn Atod. 4 para. 3(6) wedi eu mewnosod (30.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/103), rhlau. 1(2), 2(6)(c)(iv)(bb)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)