ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI14

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad chwaraeon elît sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

marchnad;

ii

gwasanaeth crefyddol.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedigI25

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.

2

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.

4

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

5

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.