Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

Newidiadau dros amser i: RHAN 3A

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 13/03/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 27/02/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

[F1RHAN 3ALL+CCyfyngiadau ar fynd i ysgolion a sefydliadau addysg bellach

Cyfyngiadau ar fynd i fangreoedd ysgolionLL+C

6A.(1) Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu i ddisgybl [F2dynodedig] fynd i fangre’r ysgol.

[F3(1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.]

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—

(a)i ddisgybl [F4dynodedig] fynd i fangre ysgol—

(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;

(ii)pa fo perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd hyglwyfedd y disgybl;

(iii)pan—

(aa)bo’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, neu

(bb)perchennog yr ysgol annibynnol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi,

yn penderfynu bod y disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol;

(b)[F5i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre ysgol arbennig;

(c)[F6i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre uned cyfeirio disgyblion;

(d)[F7i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre uned mewn ysgol, pan—

(i)bo awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a

(ii)bo’r disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;

(e)[F8i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio] mewn llety ym mangre’r ysgol.

(3) Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol neu berchennog ysgol annibynnol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adnabod plant gweithwyr hanfodol.

Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellachLL+C

6B.(1) Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—

[F9(a)sefydliad addysg bellach—

(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu

(ii)i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;]

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.

GorfodiLL+C

6C.  Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â pharagraff 6A neu 6B yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol y digwyddodd y methiant honedig yn ei ardal i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.

Dehongli Rhan 3ALL+C

6D.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996;

(b)mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;

(c)ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—

(i)sefydliad yn y sector addysg bellach;

(ii)darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000—

(aa)nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i),

(bb)nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, ac

(cc)sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol,

ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;

(d)mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;

(e)mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

(f)mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;

(g)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag ysgol a’i ystyr, mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;

(h)mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf 1996;

(i)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;

(j)mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;

(k)ystyr “ysgol arbennig” yw—

(i)ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;

(ii)ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;

(l)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996.]

[F10(m)mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

(n)ystyr “blwyddyn 3” yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;

(o)ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.]

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources