Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

ATODLEN 4LL+CCyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

F1...LL+C

Diwygiadau Testunol

F1Atod. 4 Rhn. 3A wedi ei hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(7)(b)

[F2Cyfyngiadau ar fynd i fangreoedd ysgolionLL+C

6A.(1) Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu i ddisgybl [F3dynodedig] fynd i fangre’r ysgol.

[F4(1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “disgybl dynodedig” yw disgybl ym mlwyddyn 3 neu’n uwch.]

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—

(a)i ddisgybl [F5dynodedig] fynd i fangre ysgol—

(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;

(ii)pa fo perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd hyglwyfedd y disgybl;

(iii)pan—

(aa)bo’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, neu

(bb)perchennog yr ysgol annibynnol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi,

yn penderfynu bod y disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol;

(b)[F6i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre ysgol arbennig;

(c)[F7i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre uned cyfeirio disgyblion;

(d)[F8i ddisgybl dynodedig fynd] i fangre uned mewn ysgol, pan—

(i)bo awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a

(ii)bo’r disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;

(e)[F9i ddisgybl dynodedig sy’n ddisgybl preswyl breswylio] mewn llety ym mangre’r ysgol.

(3) Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol neu berchennog ysgol annibynnol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adnabod plant gweithwyr hanfodol.

Diwygiadau Testunol

Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellachLL+C

6B.(1) Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—

[F10(a)sefydliad addysg bellach—

(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall, neu

(ii)i wneud cwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth, pan fo presenoldeb yn y sefydliad yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r myfyriwr i gwblhau elfen ofynnol o’r cwrs;]

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.

GorfodiLL+C

6C.  Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â pharagraff 6A neu 6B yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol y digwyddodd y methiant honedig yn ei ardal i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.]

F1  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .