Rheoliad 4(8)
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 5 pennawd wedi ei amnewid (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(10)
1. Dyma’r tabl y cyfeirir ato yn rheoliad 4(8)—LL+C
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Ardal | Lefel Rhybudd yr Ardal | |
1 | Cymru gyfan | [F24] |
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn Atod. 6 para. 4(2) wedi ei amnewid (19.12.2020 am 11.59 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610), rhlau. 1(2), 2(5)(d)(i)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
Diwygiadau Testunol
F3Atod. 5 para. 2 ac cross-heading wedi ei fewnosod (20.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 (O.S. 2021/172), rhlau. 1(2), 2(9)
2. Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4, am y cyfnod o ddechrau’r diwrnod ar 20 Chwefror 2021 tan ddiwedd y diwrnod ar 12 Mawrth 2021—LL+C
(a)mae paragraff 1(4)(f) o Atodlen 4 i’w ddarllen—
(i)fel pe bai’r “neu” ar ôl is-baragraff (ii) wedi ei hepgor, a
(ii)fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (iii)
“neu
(iv)mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp ac unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed.”;
(b)mae paragraff 2(4)(i) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (i)
“neu
(ii)mewn grŵp o ddim mwy na 4 o bersonau o ddim mwy na 2 aelwyd, ond caiff y grŵp hefyd gynnwys unrhyw blant o’r naill aelwyd neu’r llall sydd o dan 11 oed,”.]
[F4(c)mae paragraff 3(8) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (b)—
“(c)aelwyd ag—
(i)2 neu ragor o oedolion,
(ii)1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a
(iii)unrhyw nifer o blant eraill.”]
Diwygiadau Testunol
F4Atod. 5 para. 2(c) wedi ei fewnosod (27.2.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 (O.S. 2021/210), rhlau. 1(2), 2(11)(a)