Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 20/12/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rheoliad 4(7)

ATODLEN 6LL+CAddasiadau dros dro ar gyfer y Nadolig: aelwydydd estynedig a theithio

Y Nadolig: addasiadau dros dro i gyfyngiadau ar gynulliadau mewn anheddau preifat a chyfyngiadau ar deithioLL+C

1.  [F1Ar 25 Rhagfyr 2020] mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Diffiniad o “cyfnod y Nadolig”LL+C

F22.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Aelwydydd estynedig yn ystod cyfnod y NadoligLL+C

F33.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4.—(1Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn lle paragraff 3 (aelwydydd estynedig) rhodder—

Y Nadolig: aelwyd estynedig

3.(1) Caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwyd arall [F4ar 25 Rhagfyr 2020] .

(2) Yn ychwanegol at y 2 aelwyd sydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd un oedolyn hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

(3) Er mwyn cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig rhaid i holl aelodau’r aelwydydd sy’n oedolion gytuno (ond gweler is-baragraff (4)).

(4) Caiff aelod o aelwyd (“aelwyd wreiddiol”) sy’n oedolyn gytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig nad yw aelod arall o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolyn wedi cytuno i fod yn rhan ohoni.

(5) Pan fo is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)mae’r aelwyd wreiddiol i’w thrin at ddibenion y paragraff hwn a pharagraffau 1, 2 a 3A fel 2 aelwyd (neu ragor) ar wahân,

(b)rhaid i’r aelodau sy’n oedolion o’r aelwyd wreiddiol benderfynu pa un neu ragor o’r aelwydydd ar wahân hynny sy’n cynnwys unrhyw aelod o’r aelwyd wreiddiol sy’n—

(i)plentyn, neu

(ii)oedolyn y mae gan oedolyn arall ar yr aelwyd gyfrifoldebau gofalu drosto, ac

(c)mae’r aelodau o’r aelwyd wreiddiol sy’n oedolion i ddychwelyd i gael eu trin fel un aelwyd pan nad ydynt yn rhan o aelwyd estynedig mwyach.

(6) Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig.

(7) Mae aelwyd estynedig yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd sy’n oedolyn yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

(8) Os yw aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig arall gydag unrhyw aelwyd arall.

(9) Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

Addasu “cyfnod y Nadolig”: aelwydydd sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon

F53A.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F6(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F7(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Darpariaeth drosiannol ynghylch aelwydydd estynedigLL+C

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo aelwyd yn rhan o aelwyd estynedig [F8ar 25 Rhagfyr 2020 yn rhinwedd yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4] o’r Atodlen hon (“aelwyd estynedig y Nadolig”), a

[F9(b)pan oedd yr aelwyd, yn union 25 Rhagfyr 2020, yn rhan o aelwyd estynedig a ffurfiwyd o dan neu yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 4 (“aelwyd estynedig cyn y Nadolig”) fel y mae’n gymwys heb yr addasiadau a wneir ym mharagraff 4.]

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn fel y’u haddesir gan yr Atodlen hon—

(a)mae’r aelwyd estynedig cyn y Nadolig i’w thrin fel pe na bai’n bodoli mwyach, a

(b)mae’r aelwyd i’w thrin fel pe na bai wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig cyn cytuno i ffurfio rhan o aelwyd estynedig y Nadolig.

(3Yn union ar ddiwedd [F10y dydd ar 25 Rhagfyr 2020], mae’r aelwyd i’w thrin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe na bai wedi gwneud unrhyw gytundeb blaenorol i gael ei thrin fel rhan o aelwyd estynedig.

F11(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?