xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rheoliad 26
1.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 16 [F1, 17 neu 17A] , a
(b)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.
(2) Rhaid i hysbysiad gwella mangre—
(a)pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;
(b)pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F2, 17 neu 17A] ;
(c)pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);
(d)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(3) Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(2).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 8 para. 1(1)(a) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(a)(i)
F2Geiriau yn Atod. 8 para. 1(2)(b) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(a)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
2.—(1) Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.
(2) Amod 1 yw—
(a)bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,
(b)bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac
(c)bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(3) Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(a)nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F3, 17 neu 17A] , a
(b)bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
(4) Rhaid i hysbysiad cau mangre—
(a)cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,
(b)pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—
(i)nad ydynt wedi eu cymryd, a
(ii)y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F4, 17 neu 17A] ,
(c)pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16 [F5, 17 neu 17A] ,
(d)yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,
(e)pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac
(f)rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.
(5) Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 672 o oriau (28 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.
(6) Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.
(7) Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
(8) Pan fo—
(a)swyddog gorfodaeth yn ystyried bod person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, a
(b)naill ai—
(i)hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi, neu
(ii)achos wedi ei ddwyn am drosedd,
mewn perthynas â’r methiant hwnnw,
caiff y swyddog gorfodaeth serch hynny ddyroddi hysbysiad cau mangre o dan is-baragraff (1).
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn Atod. 8 para. 2(3)(a) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(b)(i)
F4Geiriau yn Atod. 8 para. 2(4)(b)(ii) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(b)(ii)
F5Geiriau yn Atod. 8 para. 2(4)(c) wedi eu hamnewid (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(b)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
3.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—
(a)bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a
(b)na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.
(2) Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.
(3) At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—
(a)pan fo’r person yn byw yn y fangre;
(b)pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;
(c)pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 [F6neu 17A] , pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;
(d)pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;
(e)pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.
Diwygiadau Testunol
F6Geiriau yn Atod. 8 para. 3(3)(c) wedi eu mewnosod (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu
(b)bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17 [F7neu 17A] yn y fangre o dan sylw.
(2) Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.
Diwygiadau Testunol
F7Geiriau yn Atod. 8 para. 4(1)(b) wedi eu mewnosod (20.1.2021) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/57), rhlau. 1(2), 2(12)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i apêl gael ei wneud—
(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a
(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(3) Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).
(4) Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.
(5) Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—
(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;
(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;
(c)addasu’r hysbysiad;
(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.
(6) Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.
(7) Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.
(8) Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—
(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;
(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
6.—(1) Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.
(2) Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person—
(a)os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu
(b)os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.
[F8(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—
(a)arddangos mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre—
(i)copi o’r hysbysiad, neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad, a
(ii)arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9;
(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.]
(3) Rhaid i F9... arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.
[F10(4) Rhaid i’r canlynol barhau i gael eu harddangos neu eu cyhoeddi (yn ôl y digwydd) yn unol ag is-baragraff (2) am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith—
(a)copi o’r hysbysiad neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad;
(b)yr arwydd.]
Diwygiadau Testunol
F8Atod. 8 para. 7(2) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(19)(a)
F9Geiriau yn Atod. 8 para. 7(3) wedi eu hepgor (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(19)(b)
F10Atod. 8 para. 7(4) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(19)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)
8.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.
(2) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)