ATODLEN 8Gorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Effaith hysbysiad cau mangreI13

1

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

a

bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

b

na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

2

Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

3

At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

a

pan fo’r person yn byw yn y fangre;

b

pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

c

pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17F1neu 17A , pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

d

pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

e

pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.