ATODLEN 8LL+CGorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

ApelauLL+C

5.—(1Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

(2Rhaid i apêl gael ei wneud—

(a)drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a

(b)o fewn 7 niwrnod ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

(3Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

(4Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

(5Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

(a)cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

(b)cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

(c)addasu’r hysbysiad;

(d)gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

(6Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

(7Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

(8Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

(a)cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

(b)anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)