Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoeddLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

[F1(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

(a)arddangos mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre—

(i)copi o’r hysbysiad, neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad, a

(ii)arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9;

(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.]

(3Rhaid i F2... arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

[F3(4) Rhaid i’r canlynol barhau i gael eu harddangos neu eu cyhoeddi (yn ôl y digwydd) yn unol ag is-baragraff (2) am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith—

(a)copi o’r hysbysiad neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad;

(b)yr arwydd.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)