Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoedd

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

(2Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

(a)arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;

(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

(3Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

(4Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.