7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.
[F1(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—
(a)arddangos mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre—
(i)copi o’r hysbysiad, neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad, a
(ii)arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9;
(b)trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.]
(3) Rhaid i F2... arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.
[F3(4) Rhaid i’r canlynol barhau i gael eu harddangos neu eu cyhoeddi (yn ôl y digwydd) yn unol ag is-baragraff (2) am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith—
(a)copi o’r hysbysiad neu wybodaeth ynghylch ble y gellir gweld yr hysbysiad;
(b)yr arwydd.]
Diwygiadau Testunol
F1Atod. 8 para. 7(2) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(19)(a)
F2Geiriau yn Atod. 8 para. 7(3) wedi eu hepgor (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(19)(b)
F3Atod. 8 para. 7(4) wedi ei amnewid (26.4.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 (O.S. 2021/502), rhlau. 1(2), 2(19)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)