ATODLEN 1Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1

Rheoliad 4(2)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI11

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

2

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI22

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd ac eithrio mewn annedd breifat—

a

o dan do, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd;

b

yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig, sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

2

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso digwyddiad o’r fath—

i

nad oes mwy na 50 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso digwyddiad o’r fath—

i

nad oes mwy na 100 o bobl yn bresennol ynddo, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed ynddo;

k

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

l

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Aelwydydd estynedigI33

1

Caiff hyd at 3 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at yr hyd at 3 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd F37anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F38i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F11ar unrhyw un adeg .

5

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 2,

b

paragraff 3 o Atodlen 3, neu

c

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

6

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F39... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F356A

Mae is-baragraff (6B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

6B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (6) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

7

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F12oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

8

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F369

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI44

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm;

ii

perfformiad mewn theatr;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Digwyddiadau awdurdodedigI55

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na 100 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;

2

Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 1 ac o ardal Lefel Rhybudd 1F85I66

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolI77

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer F40...;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigI88

1

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

2

Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

a

rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

b

ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

3

Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—

a

arddangos ffilm, neu

b

perfformiad,

sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

4

Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i—

a

mangre mewn—

i

porthladd môr;

ii

maes awyr;

iii

sefydliad addysgol;

b

ffreuturau yn y gweithle.

5

O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

6

Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

7

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

I99

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I10I122I910

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 198232).

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I122

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020, gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 2Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2

Rheoliad 4(3)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI111

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat—

a

o dan do, gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu o’i aelwyd estynedig;

b

yn yr awyr agored, sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

2

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w ystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (5) yn gymwys.

4

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

5

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI122

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

i

mewn annedd breifat, neu

ii

mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

b

sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—

i

unrhyw blant o dan 11 oed, na

ii

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

a

sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

b

sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—

i

yn aelodau o’r un aelwyd, neu

ii

yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.

3

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

4

At ddibenion is-baragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

k

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);

l

mynd i ddigwyddiad neu hwyluso digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 5.

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Aelwydydd estynedigI133

1

Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd F43anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F44i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F13ar unrhyw un adeg .

F145

Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.

6

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 3, neu

b

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

7

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F45... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F417A

Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

7B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

8

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F15oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

9

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F4210

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI144

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm;

ii

perfformiad mewn theatr;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît nad yw ond athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yn bresennol ynddo.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Digwyddiadau awdurdodedigI155

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad gael ei gynnal—

a

lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, neu

b

lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol pan fo’r digwyddiad yn digwydd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored;

2

Nid yw’r cyfeiriadau yn is-baragraff (1) at niferoedd o bobl yn cynnwys personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

3

Caniateir rhoi awdurdodiad o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â digwyddiad penodol neu ddisgrifiad penodol o ddigwyddiadau.

4

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

5

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â digwyddiad sydd i’w gynnal o dan yr awdurdodiad.

6

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

7

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan baragraff (6)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 2 ac o ardal Lefel Rhybudd 2F86I166

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

Cau mangreoedd a ddefnyddir gan fusnesau a gwasanaethau penodolI177

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal neu ddarparu busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 9 neu 10

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer F46...;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwasanaethau neu wybodaeth (gan gynnwys gwerthu, llogi neu ddanfon nwyddau neu wasanaethau)—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigI188

1

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

2

Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—

a

ni chaiff werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre ond fel rhan o bryd bwyd wrth y bwrdd y gellid disgwyl iddo gael ei weini fel brecwast, prif bryd bwyd canol dydd neu brif bryd bwyd gyda’r hwyr, neu ei weini fel prif gwrs mewn pryd bwyd o’r fath,

b

rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a

c

ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.

3

Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff sinema neu theatr gau’n hwyrach na 10.20 p.m. ond dim ond at ddiben gorffen—

a

arddangos ffilm, neu

b

perfformiad,

sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.

4

Nid yw is-baragraff (2)(b) ac (c) yn gymwys i—

a

mangre mewn—

i

porthladd môr;

ii

maes awyr;

iii

sefydliad addysgol;

b

ffreuturau yn y gweithle.

5

O ran ei gymhwysiad i fangre llety gwyliau neu lety teithio, nid yw is-baragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.

6

Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

7

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae is-baragraffau (2) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Busnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoeddI199

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 3Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 3

Rheoliad 4(4)

RHAN 1Cyfyngiadau ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifatI201

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat gydag unrhyw berson arall ac eithrio aelodau o’i aelwyd neu o’i aelwyd estynedig.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

5

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddusI212

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd yn unman ac eithrio—

i

mewn annedd breifat, neu

ii

mewn llety gwyliau neu lety teithio, a

b

sy’n cynnwys mwy na 4 o bobl, heb gynnwys—

i

unrhyw blant o dan 11 oed, na

ii

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath—

a

sy’n digwydd o dan do neu mewn unrhyw ran o fangre reoleiddiedig sydd yn yr awyr agored, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd, neu

b

sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio mewn mangre reoleiddiedig, os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad—

i

yn aelodau o’r un aelwyd, neu

ii

yn aelodau o’r un aelwyd estynedig.

3

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

4

At ddibenion is-baragraffau (1) a (3), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif personau o dan 11 oed neu bersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

i

dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall sy’n digwydd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

ii

dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 22 Awst 2020;

f

mynd i addoldy;

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

i

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu o dan do neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

j

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw—

i

lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio fel rhan o’r gweithgaredd neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol fel rhan ohono, a

ii

lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

k

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, neu hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

7

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Aelwydydd estynedigI223

1

Caiff 2 aelwyd gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Yn ychwanegol at y 2 aelwyd a gaiff gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan is-baragraff (1), caiff 1 aelwyd F49anghenion llesiant hefyd gytuno i gael ei thrin fel rhan o’r aelwyd estynedig honno.

3

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F50i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

4

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F16ar unrhyw un adeg .

F175

Pan fo aelwyd wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig ag aelwydydd eraill o dan baragraff 3 o Atodlen 1 (“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond â’r aelwydydd eraill hynny y caiff wneud cytundeb o dan y paragraff hwn, oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol.

6

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan—

a

paragraff 3 o Atodlen 2, neu

b

paragraff 3 o Atodlen 4,

mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

7

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F51... yn peidio â chytuno i gael eu trin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F477A

Mae is-baragraff (7B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

7B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (7) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

8

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F18oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

9

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F4810

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI234

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

F602

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

ii

perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol.

F52v

digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.

Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedigF585

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio o ardal Lefel Rhybudd 3 ac i ardal Lefel Rhybudd 3F786

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a mangreoeddI247

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 11 i 26

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer F53...;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

e

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 2Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod a mangreoedd trwyddedig

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diodI258

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod—

a

ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;

b

rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.

2

Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod neu unrhyw fusnes neu wasanaeth arall y mae ei fangre wedi ei awdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol—

a

gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;

b

caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.

3

At ddibenion y paragraff hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

4

Pan—

a

bo person sy’n gyfrifol am gynnal busnes bwyd a diod (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y paragraff hwn, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod: eithriadauI269

1

Nid yw paragraff 8(1) yn gymwys i—

a

mangre mewn—

i

porthladd môr;

ii

maes awyr;

iii

sefydliad addysgol;

iv

ysbyty neu gartref gofal;

b

ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;

c

mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref.

2

Nid yw paragraff 8(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.

3

Os—

a

yw dathliad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu briodas arall yn cael ei gynnal neu ei chynnal mewn mangre y mae paragraff 8 yn gymwys iddi, a

b

archebwyd y dathliad fwy nag wythnos cyn y dechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys ddiweddaraf i’r ardal y mae’r fangre wedi ei lleoli ynddi,

caiff y fangre, er gwaethaf paragraff 8(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.

4

Mae is-baragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo mangre busnes bwyd a diod (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre llety gwyliau neu lety teithio.

5

Nid yw paragraff 8(1)

a

yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;

b

yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—

i

fel rhan o wasanaeth ystafell, neu

ii

rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.

6

Nid yw paragraff 8(1) na (2)

a

yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;

b

yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler paragraff 10).

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedigI2710

1

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i alcohol gael ei werthu na’i gyflenwi yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3Rhestr o fangreoedd sydd ar gauBusnesau neu wasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd

I2811

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I2912

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3013

Sinemâu, ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3114

Neuaddau cyngerdd a theatrau, ac eithrio theatrau o sedd cerbyd.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3215

Casinos.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3316

Neuaddau bingo.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3417

Arcedau diddanu.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3518

Alïau bowlio.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3619

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3720

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3821

Amgueddfeydd ac orielau.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I3922

Rinciau sglefrio.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I4023

Parciau a chanolfannau trampolîn.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I4124

Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I4225

Sbaon.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I4326

Atyniadau i ymwelwyr.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

F59ATODLEN 3ACyfyngiadau Lefel Rhybudd 3 Dros Dro

Rheoliad 4(6A)

Annotations:
Amendments (Textual)

RHAN 1Cyfyngiad ar ymgynnull

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn anheddau preifat1

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 person F95... yn y cynulliad.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed F96, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd , neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

F63ba

cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion cael neu ddarparu—

i

gwasanaethau meddygol neu iechyd, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, a gwasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;

ii

gwasanaeth cysylltiad agos;

c

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

F647

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

8

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn llety gwyliau neu lety teithio2

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.

F971A

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad oes mwy na 6 pherson yn y cynulliad.

1B

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (1A), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd;

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

5

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Cyfyngiad ar gynulliadau mewn mannau cyhoeddus3

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn mangre nad yw paragraff 1 na 2 yn gymwys iddi oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored—

a

os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd estynedig, neu

b

os nad oes mwy na 6 person o ddim mwy na 2 aelwyd yn y cynulliad.

3

Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2)(b), nifer y personau sy’n cymryd rhan mewn cynulliad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

a

unrhyw blant o dan 11 oed, neu

b

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad.

4

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn cymryd rhan yn y cynulliad at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (6) yn gymwys.

5

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

h

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

i

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

j

ymweld â pherson sy’n preswylio mewn cartref gofal, â chaniatâd darparwr y gwasanaeth.

6

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (4)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

mynd i addoldy;

f

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

g

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

h

cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

F657

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

8

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedig4

1

Caiff aelwyd anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

3

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn 1 aelwyd estynedig ar unrhyw un adeg.

4

Pan fo aelwydydd wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan baragraff 3 o Atodlen 4, mae’r aelwydydd hynny i’w trin fel pe baent wedi cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig o dan y paragraff hwn.

5

Mae aelwyd yn peidio â cael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

6

Mae is-baragraff (7) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

7

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (2) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

8

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gyda’r aelwyd honno.

9

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

10

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion;

c

aelwyd ag—

i

2 neu ragor o oedolion,

ii

1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a

iii

unrhyw nifer o blant eraill.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau5

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

arddangosiad ffilm mewn sinema o sedd cerbyd;

ii

perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;

iii

marchnad;

iv

gwasanaeth crefyddol;

v

digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol.

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 3 ac o ardal Lefel Rhybudd 3F826

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau busnesau bwyd a diod7

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

defnyddio mangre ar gyfer—

i

gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

ii

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

b

darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

c

ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

F66ca

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol;

d

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel pe bai’n rhan o fangre’r busnes hwnnw.

4

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau llety gwyliau neu lety teithio nad yw’n hunangynhwysol8

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio mangre ar gyfer darparu llety—

a

mewn safle gwersylla neu safle gwyliau, ar yr amod mai pwyntiau dŵr a phwyntiau gwaredu gwastraff yw’r unig gyfleusterau a rennir a ddefnyddir gan westeion yn y safle gwersylla neu’r safle gwyliau, neu

b

mewn mangre ar wahân a hunangynhwysol.

3

Ac nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

i

nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

ii

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

d

defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

4

Nid yw mangre ar wahân ac yn hunangynhwysol at ddibenion y paragraff hwn ond—

a

os y’i darperir i bersonau sy’n aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, a

b

os na rennir unrhyw un neu ragor o’r canlynol ag aelodau o unrhyw aelwyd arall—

i

ceginau,

ii

mannau cysgu,

iii

ystafelloedd ymolchi, neu

iv

mannau cymunedol o dan do.

5

Yn y paragraff hwn—

a

nid yw derbynfa i’w thrin fel pe bai’n gyfleuster a rennir at ddibenion is-baragraff (2)(a);

b

mae “mannau cymunedol” yn cynnwys unrhyw ardal o’r fangre sydd ar agor i’r cyhoedd, ond nid yw’n cynnwys derbynfa na choridorau, lifftiau na grisiau a ddefnyddir i fynd i rannau eraill o’r fangre.

6

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Cau canolfannau cymunedol F67...9

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym F68mharagraff 19 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan F69is-baragraff (2) .

2

Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

a

i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

b

F70at unrhyw ddiben y gofynnir amdano neu a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

F713

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

4

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r tir o amgylch—

a

canolfan gymunedol;

F72b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F735

PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethau10

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau F7424 i 44

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

e

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth—

F75a

a restrir ym mharagraff 39 neu 42 (sbaon a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd o dan do) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion darparu, drwy apwyntiad, wasanaethau cysylltiad agos neu wasanaethau a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr, optometryddion, awdiolegwyr, ciropodyddion, ceiropractyddion, osteopathiaid, ffisiotherapyddion ac aciwbigwyr;

b

a restrir ym mharagraff 34 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu yn yr awyr agored er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).

4

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi eu hesemptio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gau11

1

Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon—

a

caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau F7651 a 52 barhau i fod ar agor;

b

caiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;

F77c

caiff mangre a ddefnyddir fel lleoliad ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath, agor i’r cyhoedd at ddibenion galluogi person i ymweld â’r fangre, drwy apwyntiad, gyda golwg ar archebu’r fangre ar gyfer gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ar gyfer dathlu digwyddiad o’r fath;

2

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu neu gyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

3

Nid yw is-baragraff (2) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu neu gyflenwi alcohol yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

4

Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005—

a

fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 1949, neu

b

at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004.

PENNOD 4Rhestr o fangreoedd sydd ar gau

Mangreoedd sydd ar gau

Busnesau bwyd a diod

12

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

13

Tafarndai.

14

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithio

15

Safleoedd gwersylla.

16

Safleoedd gwyliau.

17

Gwestai a llety gwely a brecwast;

18

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

19

Canolfannau cymunedol.

F7920

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gwasanaethau personol etc.

F7921

F7922

F7923

Hamdden a chymdeithasol etc.

24

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

25

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

26

Sinemâu.

27

Neuaddau cyngerdd a theatrau.

28

Casinos.

29

Neuaddau bingo.

30

Arcedau diddanu.

31

Alïau bowlio.

32

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

33

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

34

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

35

Amgueddfeydd ac orielau.

36

Rinciau sglefrio.

37

Parciau a chanolfannau trampolîn.

38

Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

39

Sbaon.

40

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

41

Atyniadau i ymwelwyr ac eithrio—

a

ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn mangre lle y mae heneb gofrestredig (o fewn yr ystyr a roddir i “scheduled monument” gan adran 1(11) o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979);

b

ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored mewn parc neu ardd sydd wedi ei gofrestru neu ei chofrestru yn y gofrestr o barciau a gerddi o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru ac a gyhoeddir ganddynt o bryd i’w gilydd;

c

ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn man y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b) pan fo’n angenrheidiol i’r ardal o dan do fod ar agor—

i

i ganiatáu mynediad i’r ardaloedd cyhoeddus yn yr awyr agored,

ii

am resymau iechyd a diogelwch, neu

iii

i sicrhau y cydymffurfir â’r gofynion yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r fangre.

Chwaraeon ac ymarfer corff

42

Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff o dan do, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd a champfeydd o dan do.

43

Pyllau nofio.

44

Cyrtiau chwaraeon o dan do, lawntiau bowlio o dan do a meysydd neu leiniau chwaraeon eraill o dan do.

Manwerthu etc.

F8045

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F8046

F8047

Mangreoedd esempt

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

F8048

F8049

F8050

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Busnesau bwyd a diod

51

Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

52

Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.

F8153

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F8154

F8155

F8156

F8157

F8158

F8159

F8160

61

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

F8162

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F8163

F8164

F8165

F8166

ATODLEN 4Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4

Rheoliad 4(5)

RHAN 1Cyfyngiadau ar symud ac ymgynnull gydag eraill

Gofyniad i aros gartrefI441

1

Ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu’n aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson ymadael â’r man lle y mae’n byw neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw yn cynnwys—

a

cael cyflenwadau oddi wrth fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 55 i 66 gan gynnwys—

i

bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini ar yr un aelwyd neu’r aelwyd estynedig (gan gynnwys anifeiliaid ar yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig) neu ar gyfer personau hyglwyf;

ii

cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd neu’r aelwyd estynedig, neu aelwyd person hyglwyf;

b

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

c

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

d

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

e

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

f

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

g

symud cartref;

h

cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 39(g) o Atodlen 7 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

i

gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;

j

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

k

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

l

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

c

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

d

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

e

mynd i addoldy;

f

gwneud ymarfer corff, naill ai—

i

ar ei ben ei hun,

ii

gydag aelodau eraill o aelwyd neu aelwyd estynedig y person, F21... F28neu

iii

gyda gofalwr y person F22, neu

F29F20iv

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

g

athletwr elît ac yn hyfforddi neu’n cystadlu;

h

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

i

digwyddiad chwaraeon elît, neu

ii

digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i Gymru;

i

teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad;

j

teithio i fan neu o fan, neu’n bresennol mewn man, lle y mae aelod o’i aelwyd estynedig yn byw.

5

Yn is-baragraff (4)(f)—

a

rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen yn y man lle y mae’r person yn byw neu lle y mae aelod o aelwyd estynedig y person yn byw, neu

b

pan fo angen i’r person, am resymau salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010), wneud ymarfer corff mewn man arall, rhaid i ymarfer corff ddigwydd mewn ardal sy’n lleol i’r man lle y mae’r person yn byw.

6

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Gofyniad i beidio ag ymgynnull gyda phobl eraillI452

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymgynnull gydag unrhyw berson arall ac eithrio—

a

aelodau o’i aelwyd,

b

ei ofalwr, neu

c

person y mae’n darparu gofal iddo.

2

At ddibenion is-baragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

a

os yw’r person yn ymgynnull gyda phobl eraill at ddiben sy’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol, neu

b

os yw un o’r amgylchiadau yn is-baragraff (4) yn gymwys.

3

Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson gymryd rhan mewn cynulliad atynt yn cynnwys—

a

cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

b

gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

c

cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

d

darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

e

mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

f

symud cartref;

g

gweld eiddo mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu’r eiddo;

h

ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

i

cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;

j

cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny;

k

osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed.

4

Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) yw bod y person yn—

a

darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

b

mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

i

fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas,

ii

os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas;

c

mynd i angladd—

i

fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

ii

os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

iii

fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

d

mynd i addoldy;

e

athletwr elît ac sy’n hyfforddi neu’n cystadlu ;

f

darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn digwyddiad chwaraeon elît;

g

cymryd rhan mewn cynulliad gydag aelodau o’i aelwyd estynedig mewn man lle y mae aelodau o’r aelwyd estynedig yn byw;

h

cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

i

yn byw yn yr un fangre, a

ii

yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.

F23i

gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored, ac eithrio mewn annedd breifat—

i

gydag aelodau o aelwyd estynedig y person, F30...

F30ii

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ynghyd ag unrhyw ofalwr i berson sy’n cymryd rhan sy’n bresennol.

5

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

Aelwydydd estynedigI463

1

Caiff aelwyd F31anghenion llesiant ac aelwyd arall gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig.

2

Er mwyn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig, rhaid F55i holl aelodau’r aelwydydd gytuno.

3

Ni chaiff aelwyd ond cytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o 1 aelwyd estynedig F24ar unrhyw un adeg .

4

Pan fo aelwyd F32anghenion llesiant wedi cytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gyda hyd at—

a

3 aelwyd arall o dan baragraff 3 o Atodlen 1, neu

b

2 aelwyd arall o dan—

i

paragraff 3 o Atodlen 2, neu

ii

paragraff 3 o Atodlen 3,

F25(“yr aelwyd estynedig flaenorol”), dim ond rhwng yr aelwyd F32anghenion llesiant ac 1 o’r aelwydydd eraill hynny y caniateir gwneud cytundeb o dan y paragraff hwn F26oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd F32anghenion llesiant gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag aelod o’r aelwydydd hynny gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig flaenorol .

5

Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig os yw unrhyw aelod o’r aelwyd F56... yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig.

F545A

Mae is-baragraff (5B) yn gymwys—

a

pan fo person a fyddai’n aelod o aelwyd estynedig, neu sy’n aelod o aelwyd estynedig, yn blentyn, a

b

pan fo person (“P”) a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn aelod o aelwyd y plentyn.

5B

Pan fo’r is-baragraff hwn yn gymwys—

a

mae’r cytundeb sy’n ofynnol gan is-baragraff (3) i’w roi gan P (ac nid gan y plentyn), a

b

mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig yn unol ag is-baragraff (5) os yw P yn peidio â chytuno i gael ei drin fel pe bai’n rhan o’r aelwyd estynedig (pa un a yw’r plentyn yn peidio â chytuno hefyd ai peidio).

6

Os yw aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig, ni chaiff yr aelwyd gytuno i gael ei thrin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig gydag unrhyw aelwyd arall F27oni bai bod cyfnod o 10 niwrnod o leiaf wedi dod i ben ers i unrhyw aelod o’r aelwyd gymryd rhan ddiwethaf mewn cynulliad gydag unrhyw aelod o aelwyd arall gan ddibynnu ar gael ei drin fel pe bai’n rhan o aelwyd estynedig â’r aelwyd honno .

7

Yn yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at aelwyd estynedig yn gyfeiriadau at aelwyd estynedig a ffurfir o dan neu yn rhinwedd y paragraff hwn.

F338

Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—

a

aelwyd un oedolyn;

b

aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.

RHAN 2Cyfyngiadau ar drefnu digwyddiadau

Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauI474

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—

a

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu

b

digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,

heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad chwaraeon elît sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.

3

At ddibenion is-baragraff (1)

a

nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;

b

mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;

c

nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—

i

marchnad;

ii

gwasanaeth crefyddol.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Digwyddiadau chwaraeon elît awdurdodedigI485

1

Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad ysgrifenedig i ddigwyddiad chwaraeon elît gael ei gynnal.

2

O ran awdurdodiad o dan is-baragraff (1)

a

rhaid iddo gael ei roi i berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad, a

b

caiff ei gwneud yn ofynnol i’r digwyddiad gael ei gynnal yn unol ag unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi—

a

awdurdodiad a roddir o dan is-baragraff (1), a

b

manylion unrhyw ofynion, unrhyw gyfyngiadau neu unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r digwyddiad.

4

Caiff Gweinidogion Cymru dynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person y rhoddwyd yr awdurdodiad iddo.

5

Ni chaniateir i awdurdodiad gael ei dynnu yn ôl o dan is-baragraff (4)

a

onid oes gan Weinidogion Cymru sail resymol dros gredu na chaiff y digwyddiad ei gynnal, neu nad yw’n cael ei gynnal, yn unol â gofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir ganddynt, neu

b

onid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur tynnu’r awdurdodiad yn ôl at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint gan y coronafeirws.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 3Cyfyngiadau ar deithio

Cyfyngiad ar deithio i ardal Lefel Rhybudd 4F83I496

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F57...

Annotations:
Amendments (Textual)
F57

Atod. 4 Rhn. 3A wedi ei hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(7)(b)

F57

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F57

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F57

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F57

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

RHAN 4Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol

PENNOD 1Busnesau a gwasanaethau y mae rhaid cau eu mangreoedd ond y caniateir mynediad cyfyngedig iddynt

Cau busnesau bwyd a diodI507

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 12 i 14 (busnesau bwyd a diod)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

defnyddio mangre ar gyfer—

i

gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, neu

ii

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i bobl ddigartref;

b

darparu gwasanaeth ystafell mewn gwesty neu lety arall (pan fo’r gwesty neu’r llety arall yn parhau i weithredu yn unol â’r eithriadau a ganiateir gan baragraff 8);

c

ffreutur yn y gweithle rhag bod ar agor pan na fo dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd neu ddiod;

d

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach.

3

At ddibenion is-baragraff (1), mae ardal o dan do sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

4

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cau llety gwyliau neu lety teithioI518

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 15 i 18 (llety gwyliau neu lety teithio)—

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes, a

b

ni chaiff gynnal busnes yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r rheoliad hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

darparu llety ar gyfer unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddechreuodd y paragraff hwn fod yn gymwys yn fwyaf diweddar i’r ardal y mae’r llety wedi ei leoli ynddi ac—

i

nad ydynt yn gallu dychwelyd i’w prif breswylfa, neu

ii

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;

d

defnyddio mangre i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) yn rhinwedd y paragraff hwn beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cau canolfannau cymunedol F87...I529

1

Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd o fath a restrir ym F88mharagraff 19 sicrhau bod y fangre ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer y defnydd a ganiateir gan F89is-baragraff (2) .

2

Caiff canolfan gymunedol fod ar agor—

a

i darparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol, neu

b

i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.

F903

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F904

Yn y paragraff hwn, mae “gwasanaethau cyhoeddus” yn cynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer pobl ddigartref neu bobl hyglwyf, gofal plant, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng.

PENNOD 2Busnesau neu wasanaethau y mae’n ofynnol cau eu mangreoedd

Cau busnesau a gwasanaethauI5310

1

O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 21 i 48

a

rhaid iddo gau i aelodau’r cyhoedd unrhyw fangre a weithredir fel rhan o’r busnes neu’r gwasanaeth, a

b

ni chaiff gynnal y busnes neu’r gwasanaeth yn y fangre honno ac eithrio yn unol â’r paragraff hwn.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn atal—

a

gwneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod mangre yn addas i’w defnyddio pan nad yw is-baragraff (1) yn gymwys i’r fangre mwyach;

b

defnyddio mangre at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano neu’n ei awdurdodi;

c

defnyddio mangre i ddarlledu heb gynulleidfa yn bresennol yn y fangre (pa un ai dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu) neu i ymarfer ar gyfer darllediad o’r fath;

d

defnyddio mangre ar gyfer darparu nwyddau neu wasanaethau (gan gynnwys eu gwerthu, eu llogi, eu casglu neu eu danfon) mewn ymateb i archeb neu ymholiad a wneir—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post;

e

defnyddio mangre ar gyfer darparu gwybodaeth—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

3

Pan—

a

bo’n ofynnol, yn rhinwedd y paragraff hwn, i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes (“busnes A”) beidio â chynnal busnes A mewn mangre, a

b

bo busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad yn y paragraff hwn os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn peidio â chynnal busnes A yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3Busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd wedi’u heithrio rhag y gofyniad i gau

Esemptiad rhag y gofyniad i gauI5411

1

Er gwaethaf darpariaethau blaenorol y Rhan hon, caiff mangreoedd a weithredir gan fusnesau neu wasanaethau a restrir ym mharagraffau 49 i 66 barhau i fod ar agor.

2

A chaiff canolfannau siopa, arcedau siopa a marchnadoedd fod ar agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol i fynd i fusnes neu ddefnyddio wasanaeth a restrir ym mharagraffau 49 i 66.

3

Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y fangre werthu neu gyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.

4

Nid yw is-baragraff (3) yn caniatáu i’r person sy’n gyfrifol am y fangre werthu neu gyflenwi alcohol yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 4Rhestr o fangreoedd sydd ar gau

Mangreoedd sydd ar gau

Busnesau bwyd a diod

I5512

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

I5613

Tafarndai.

I5714

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau neu lety teithio

I5815

Safleoedd gwersylla.

I5916

Safleoedd gwyliau.

I6017

Gwestai a llety gwely a brecwast.

I6118

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

I6219

Canolfannau cymunedol.

F94I6320

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I6421

Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.

Gwasanaethau personol etc.

I6522

Salonau gwallt a barbwyr.

I6623

Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.

I6724

Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.

Hamdden a chymdeithasol etc.

I6825

Clybiau nos, disgos, neuaddau dawnsio neu leoliadau eraill sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol lle y darperir cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio.

I6926

Lleoliadau adloniant rhywiol (o fewn yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” gan baragraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982).

I7027

Sinemâu.

I7128

Neuaddau cyngerdd a theatrau.

I7229

Casinos.

I7330

Neuaddau bingo.

I7431

Arcedau diddanu.

I7532

Alïau bowlio.

I7633

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

I7734

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

I7835

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

I7936

Amgueddfeydd ac orielau.

I8037

Rinciau sglefrio.

I8138

Parciau a chanolfannau trampolîn.

I8239

Parciau a chanolfannau sglefrio amgaeedig neu o dan do.

I8340

Sbaon.

I8441

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

I8542

Atyniadau i ymwelwyr.

Chwaraeon ac ymarfer corff

I8643

Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.

I8744

Pyllau nofio.

I8845

Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).

Manwerthu etc.

I8946

Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu.

I9047

Canolfannau siopa ac arcedau siopa.

I9148

Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo F3a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr .

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I56

Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I57

Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I58

Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I59

Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I60

Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I61

Atod. 4 para. 18 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I62

Atod. 4 para. 19 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I63

Atod. 4 para. 20 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I64

Atod. 4 para. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I65

Atod. 4 para. 22 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I66

Atod. 4 para. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I67

Atod. 4 para. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I68

Atod. 4 para. 25 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I69

Atod. 4 para. 26 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I70

Atod. 4 para. 27 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I71

Atod. 4 para. 28 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I72

Atod. 4 para. 29 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I73

Atod. 4 para. 30 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I74

Atod. 4 para. 31 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I75

Atod. 4 para. 32 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I76

Atod. 4 para. 33 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I77

Atod. 4 para. 34 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I78

Atod. 4 para. 35 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I79

Atod. 4 para. 36 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I80

Atod. 4 para. 37 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I81

Atod. 4 para. 38 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I82

Atod. 4 para. 39 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I83

Atod. 4 para. 40 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I84

Atod. 4 para. 41 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I85

Atod. 4 para. 42 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I86

Atod. 4 para. 43 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I87

Atod. 4 para. 44 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I88

Atod. 4 para. 45 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I89

Atod. 4 para. 46 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I90

Atod. 4 para. 47 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I91

Atod. 4 para. 48 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Mangreoedd esempt

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

I9249

Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, gwasanaethau trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, gwasanaethau ffisiotherapi, gwasanaethau aciwbigo a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

I9350

Llyfrgelloedd ysbytai a llyfrgelloedd mewn sefydliadau addysgol.

I9451

Trefnwyr angladdau.

I9552

Milfeddygon.

Busnesau bwyd a diod.

I9653

Caffis a ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol neu mewn llety a ddarperir ar gyfer myfyrwyr.

I9754

Ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r llu awyr neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn.

Manwerthu etc.

I9855

Busnesau sy’n cynnig y nwyddau a ganlyn ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn siop—

a

bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre (gan gynnwys bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes ac anifeiliaid domestig arall);

b

cynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer storio a pharatoi bwyd neu ddiod neu ar gyfer bwyta bwyd neu yfed diod;

c

cynhyrchion ar gyfer cynnal, cynnal a chadw neu weithrediad hanfodol y cartref neu weithle;

d

cynhyrchion fferyllol, cynhyrchion iechyd a gofal personol, cynhyrchion babanod (gan gynnwys dillad), cynhyrchion ymolchi a chynhyrchion cosmetig;

e

papurau newydd a chylchgronau;

f

beiciau a chynhyrchion sy’n hanfodol ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw beiciau,

ond dim ond at ddibenion gwerthu neu logi’r nwyddau hynny.

I9956

Marchnadoedd bwyd, siopau cyfleustra, siopau cornel, siopau anifeiliaid anwes, siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a gorsafoedd petrol.

I10057

Archfarchnadoedd a siopau eraill sy’n gwerthu sawl math o nwyddau ond dim ond at ddibenion—

a

gwerthu’r nwyddau a restrir ym mharagraff 55;

b

gwerthu nwyddau o fath a werthir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r busnesau a restrir yn is-baragraff 56;

c

gwerthu nwyddau eraill—

i

pan na fo’n rhesymol ymarferol gwahanu neu ddarnodi’r ardaloedd hynny o siop sy’n arddangos nwyddau o’r fath fel arfer oddi wrth yr ardaloedd hynny sy’n arddangos y nwyddau a grybwyllir ym mharagraffau (a) a (b);

ii

ar sail eithriadol pan fo angen y nwyddau mewn argyfwng neu ar sail dosturiol.

I10158

Siopau sy’n cynnig gwasanaethau cynnal a chadw neu atgyweirio ar gyfer dyfeisiau telathrebu neu dechnoleg gwybodaeth.

I10259

Siopau cyflenwadau adeiladu ac offer.

I10360

Banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill.

I10461

Swyddfeydd post.

I10562

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

F1962A

Golchfeydd ceir awtomatig.

I10663

Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

I10764

Golchdai a siopau sychlanhau.

I10865

Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I10966

Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.

Annotations:
Commencement Information
I92

Atod. 4 para. 49 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I93

Atod. 4 para. 50 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I94

Atod. 4 para. 51 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I95

Atod. 4 para. 52 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I96

Atod. 4 para. 53 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I97

Atod. 4 para. 54 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I98

Atod. 4 para. 55 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I99

Atod. 4 para. 56 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I100

Atod. 4 para. 57 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I101

Atod. 4 para. 58 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I102

Atod. 4 para. 59 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I103

Atod. 4 para. 60 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I104

Atod. 4 para. 61 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I105

Atod. 4 para. 62 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I106

Atod. 4 para. 63 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I107

Atod. 4 para. 64 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I108

Atod. 4 para. 65 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I109

Atod. 4 para. 66 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 5F34Ardaloedd ac addasiadau dros dro

Rheoliad 4(8)

Annotations:

I1101

Dyma’r tabl y cyfeirir ato yn rheoliad 4(8)

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Ardal

Lefel Rhybudd yr Ardal F613

1

Cymru gyfan

F14

F62Addasiadau dros dro

Annotations:
Amendments (Textual)
F62

Atod. 5 para. 2 wedi ei amnewid (27.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021 (O.S. 2021/413), rhlau. 1(2), 2(5)(b)

2

Mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar F9325 Ebrill 2021—

a

mae rheoliad 25 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)(a)(iv)—

iv

paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu

b

mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(d)—

d

paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu

c

mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai—

i

ym mharagraff (1)(c), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

ii

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)(c)—

c

paragraff 2(1) neu 3(1) o Atodlen 3A, neu

F91d

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

e

mae rheoliad 31(1)(b) i’w ddarllen fel pe bai “paragraff 5 o Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “paragraff 4 o Atodlen 3”;

f

mae rheoliad 37 i’w ddarllen fel pe bai—

i

y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

c

paragraff 1(1), 2(1) neu 3(1) o Atodlen 3A, neu

ii

ym mharagraff (2)(c)(iii), “Atodlen 3A” wedi ei roi yn lle “Atodlen 3”;

F92g

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

h

mae rheoliad 39 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

c

paragraff 5 o Atodlen 3A, neu

i

mae rheoliad 42 i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)(c)—

c

paragraff 7(1), 8(1), 9(1), 10(1) neu 11(2) o Atodlen 3A, neu

F84ATODLEN 5APersonau sydd wedi eu hesemptio rhag y cyfyngiadau ar ymadael â’r Deyrnas Unedig, a’r gofyniad i gael ffurflen datganiad teithio

Rheoliadau 14A a 14B

Annotations:

1

1

Person (“P”)—

a

sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig,

b

sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig,

c

sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol,

d

a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth,

e

sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol,

f

sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

g

sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f),

h

a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swydd gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd,

i

sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig,

j

sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig,

k

sy’n gludydd diplomyddol neu’n gludydd consylaidd, neu

l

sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

2

At ddibenion y paragraff hwn—

a

ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963;

b

ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd;

c

ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Diplomyddol 1961;

d

ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

e

ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, cyflogai consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968, ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno;

f

ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964.

2

1

Gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth pan fo’n ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol sy’n gysylltiedig â ffin y Deyrnas Unedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

2

At ddibenion is-baragraff (1) a pharagraff 3—

a

mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

b

ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol neu’r cyflogwr perthnasol;

c

mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.

3

1

Person sy’n was i’r Goron, yn gontractwr llywodraeth neu’n aelod o lu ar ymweliad—

a

y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith sy’n angenrheidiol er mwyn i weithgareddau amddiffyn hanfodol gael eu cyflawni;

b

sy’n teithio ar lestr neu awyren a weithredir gan luoedd arfog Ei Mawrhydi, neu sy’n eu cefnogi, neu a weithredir gan lu ar ymweliad, neu sy’n ei gefnogi.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

mae i “amddiffyn” yr ystyr a roddir i “defence” yn adran 2(4) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

b

ystyr “llu ar ymweliad” yw unrhyw gorfflu, criw neu adran o luoedd gwlad, sy’n gorfflu, criw neu adran o luoedd sy’n bresennol am y tro yn y Deyrnas Unedig (gan gynnwys dyfroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig), ar wahoddiad Llywodraeth Ei Mawrhydi ar gyfer y Deyrnas Unedig.

4

Swyddog i Lywodraeth dramor, a ddaeth i’r Deyrnas Unedig i ymgymryd â dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol, neu gontractwr sy’n cefnogi’r dyletswyddau diogelwch ffin hanfodol hyn yn uniongyrchol.

5

1

Teithiwr tramwy.

2

At ddibenion is-baragraff (1), ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd, ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig—

a

yn pasio drwodd i wlad neu diriogaeth arall y tu allan i’r ardal deithio gyffredin heb ddod i’r Deyrnas Unedig, neu

b

yn dod i’r Deyrnas Unedig at ddiben parhau â thaith i wlad neu diriogaeth y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac at y diben hwnnw yn unig, ac—

i

yn aros o fewn y porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig hyd nes y bo’n ymadael â Chymru, neu

ii

yn teithio’n uniongyrchol o’r porthladd lle y mae’n dod i’r Deyrnas Unedig i borthladd ymadael arall yng Nghymru.

6

1

Gweithiwr cludiant ffyrdd neu weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd.

2

At ddibenion y paragraff hwn—

a

mae “gyrrwr” yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;

b

mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988;

c

ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” yw—

i

gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddiben personol anfasnachol y gyrrwr, neu

ii

person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

d

mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981;

e

ystyr “gweithiwr cludiant teithwyr ffyrdd” yw—

i

gyrrwr cerbyd gwasanaeth cyhoeddus, neu

ii

person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1073/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth.

7

1

Morwyr a meistri, fel y diffinnir “seaman” a “master” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995, pan fônt yn teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu’n cael eu dychwelyd o’r Deyrnas Unedig yn unol â’r Confensiwn Llafur Morwrol, 2006 neu’r Confensiwn Gwaith mewn Pysgota, 2007.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

ystyr “y Confensiwn Llafur Morol, 2006” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd ar 23 Chwefror 2006 gan Gynhadledd Gyffredinol y Sefydliad Llafur Rhyngwladol;

b

ystyr “y Confensiwn Gwaith mewn Pysgota, 2007” yw’r Confensiwn a fabwysiadwyd yng Ngenefa ar 14 Mehefin 2007 gan y Sefydliad Llafur Rhyngwladol.

8

Peilot, fel y diffinnir “pilot” ym mharagraff 22(1) o Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu’n cael ei ddychwelyd o’r Deyrnas Unedig.

9

Arolygydd neu syrfëwr llongau a benodwyd o dan adran 256 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu gan lywodraeth meddiant Prydeinig perthnasol fel y diffinnir “relevant British possession” yn adran 313(1) o’r Ddeddf honno, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

10

1

Aelod o griw awyren pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu y mae’n ofynnol iddo deithio o’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.

2

Yn is-baragraff (1)—

a

ystyr “aelod o griw awyren” yw person sydd—

i

yn gweithredu fel peilot, llywiwr hedfan, peiriannydd hedfan neu weithredwr radioteleffoni hedfan yr awyren,

ii

yn cael ei gludo ar y dec hedfan ac yn cael ei benodi gan weithredwr yr awyren i roi neu i oruchwylio’r hyfforddiant, y profiad, yr ymarfer a’r profion cyfnodol sy’n ofynnol ar gyfer y criw hedfan o dan erthygl 114(2) o Orchymyn Llywio Awyr 2016 neu o dan Atodiad III neu Atodiad VI i Reoliad Gweithrediadau Awyr EASA, neu

iii

yn cael ei gludo ar yr hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren er budd diogelwch teithwyr neu’r awyren;

b

mae i “Rheoliad Gweithrediadau Awyr EASA” yr ystyr a roddir i “EASA Air Operations Regulation” ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Llywio Awyr 2016.

11

Arolygwyr hedfan sifil, fel y diffinnir “civil aviation inspector” yn Atodiad 9 i’r Confensiwn ar Hedfan Sifil Rhyngwladol a lofnodwyd yn Chicago ar 7 Rhagfyr 1944, pan fônt yn teithio o’r Deyrnas Unedig wrth ymgymryd â dyletswyddau arolygu.

12

1

Unrhyw un o’r personau a ganlyn sy’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith—

a

gyrwyr a chriwiau ar wasanaethau gwennol ac ar wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel;

b

gweithwyr gweithredol, gweithwyr cynnal a chadw rheilffyrdd, a gweithwyr diogelwch a diogeledd sy’n gweithio ar system y twnnel;

c

gweithwyr eraill sy’n cyflawni rolau hanfodol ar gyfer gweithredu, mewn modd diogel neu effeithlon, system y twnnel, gwasanaethau gwennol neu wasanaethau ar gyfer cludo teithwyr neu nwyddau drwy gyfrwng system y twnnel, neu sy’n ymwneud â diogelwch system y twnnel neu unrhyw wasanaethau o’r fath.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

mae i “gwasanaeth gwennol” yr ystyr a roddir i “shuttle service” yn adran 1(9) o Ddeddf Twnnel y Sianel 1987;

b

mae i “system y twnnel” yr ystyr a roddir i “tunnel system” yn adran 1(7) o’r Ddeddf honno.

13

Person a ddynodir gan y Gweinidog perthnasol o dan adran 5(3) o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984.

14

Person sy’n cael ei symud o’r Deyrnas Unedig yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan adran 1 o Ddeddf Dychwelyd Carcharorion i’w Gwlad eu Hunain 1984.

15

Person sy’n gyfrifol am hebrwng person a geisir i’w estraddodi yn unol â gwarant a ddyroddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Estraddodi 2003, neu berson a geisir i’w estraddodi yn unol ag unrhyw drefniadau estraddodi eraill.

16

Cynrychiolydd i unrhyw diriogaeth a deithiodd i’r Deyrnas Unedig er mwyn cymryd i’r ddalfa berson y gorchmynnwyd ei ildio yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Estraddodi 2003.

17

Person sy’n cael ei estraddodi neu ei allgludo o’r Deyrnas Unedig, ac unrhyw berson sy’n cael ei symud o’r Deyrnas Unedig, neu sy’n ymadael â hi yn wirfoddol, am nad oes ganddo ganiatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi.

18

1

Peiriannydd awyrofod arbenigol, neu weithiwr awyrofod arbenigol, pan fo’n teithio o’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.

2

At ddibenion is-baragraff (1)—

a

ystyr “peiriannydd awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau peirianyddol at ddiben sicrhau bod gweithgareddau hedfan yn parhau i weithredu (gan gynnwys darparu gwasanaethau cynnal a chadw ac atgyweirio ar gyfer llinellau cynhyrchu, cydrannau hedfan, awyrennau ar y ddaear ac awyrennau newydd, ond heb ei gyfyngu i hynny);

b

ystyr “gweithiwr awyrofod arbenigol” yw person sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen fel arall i ddarparu gwasanaethau at ddiben sicrhau bod diogelwch yn cael ei reoli a bod ansawdd yn cael ei sicrhau fel sy’n ofynnol gan y safonau, y canllawiau a’r cyhoeddiadau perthnasol ar ddiogelwch hedfan a gynhyrchir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu Asiantaeth Diogelwch Hedfan yr Undeb Ewropeaidd.

F2ATODLEN 6Addasiadau dros dro ar gyfer y Nadolig: aelwydydd estynedig a theithio

Rheoliad 4(7)

Annotations:

Y Nadolig: addasiadau dros dro i gyfyngiadau ar gynulliadau mewn anheddau preifat a chyfyngiadau ar deithioF21

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diffiniad o “cyfnod y Nadolig”F22

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Aelwydydd estynedig yn ystod cyfnod y Nadolig

F23

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F24

Darpariaeth drosiannol ynghylch aelwydydd estynedigF25

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

I121ATODLEN 7Mangreoedd rheoleiddiedig

Rheoliad 15

Annotations:
Commencement Information
I121

Atod. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Busnesau bwyd a diod

I1231

Bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau).

I1242

Tafarndai.

I1253

Caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau).

Llety gwyliau a llety teithio

I1264

Safleoedd gwersylla.

I1275

Safleoedd gwyliau.

I1286

Gwestai a llety gwely a brecwast.

I1297

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

Gwasanaethau cyhoeddus etc.

I1308

Gwasanaethau meddygol neu iechyd.

I1319

Gwasanaethau ailgylchu a gwastraff.

I13210

Canolfannau cymunedol.

I13311

Llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.

I13412

Addoldai.

I13513

Trefnwyr angladdau.

I13614

Amlosgfeydd.

I13715

Milfeddygon.

Gwasanaethau personol etc.

I13816

Salonau gwallt a barbwyr.

I13917

Salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis.

I14018

Gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio.

Hamdden a chymdeithasol etc.

I14119

Sinemâu.

I14220

Neuaddau cyngerdd a theatrau.

I14321

Casinos.

I14422

Neuaddau bingo.

I14523

Arcedau diddanu.

I14624

Alïau bowlio.

I14725

Canolfannau neu fannau chwarae o dan do.

I14826

Meysydd chwarae.

I14927

Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

I15028

Busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau.

I15129

Amgueddfeydd ac orielau.

I15230

Rinciau sglefrio.

I15331

Parciau a chanolfannau trampolîn.

I15432

Parciau a chanolfannau sglefrio o dan do.

I15533

Sbaon.

I15634

Lleoliadau ar gyfer digwyddiadau neu gynadleddau (gan gynnwys lleoliadau ar gyfer priodasau).

I15735

Atyniadau i ymwelwyr.

Chwaraeon ac ymarfer corff

I15836

Cyfleusterau chwaraeon neu ymarfer corff, gan gynnwys stiwdios ffitrwydd o dan do a champfeydd.

I15937

Pyllau nofio.

I16038

Cyrtiau chwaraeon, lawntiau bowlio, cyrsiau golff a meysydd neu leiniau chwaraeon amgaeedig (boed yn yr awyr agored neu o dan do).

Manwerthu etc.

I16139

Unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi mewn mangre fanwerthu, gan gynnwys—

a

tai arwerthiant;

b

delwriaethau ceir;

c

marchnadoedd;

d

siopau betio;

e

canolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion;

f

fferyllfeydd (gan gynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist;

g

banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill;

h

swyddfeydd post;

i

gwasanaethau trwsio ceir ac MOT;

j

marchnadoedd neu arwerthiannau da byw;

k

golchdai a siopau sychlanhau;

l

gorsafoedd petrol;

m

busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I16240

Canolfannau siopa ac arcedau siopa.

I16341

Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.

I16442

Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.

ATODLEN 8Gorfodi gofyniad i gymryd mesurau ataliol mewn mangre reoleiddiedig

Rheoliad 26

Hysbysiad gwella mangreI1111

1

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella mangre”) i berson cyfrifol os yw’r swyddog yn ystyried—

a

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir ar y person gan reoliad 16F4, 17 neu 17A , a

b

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny.

2

Rhaid i hysbysiad gwella mangre—

a

pennu’r fangre y mae’n ymwneud â hi;

b

pennu’r mesurau y mae’n ei gwneud yn ofynnol eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F5, 17 neu 17A ;

c

pennu terfyn amser y mae rhaid cymryd y mesurau oddi mewn iddo (na chaniateir iddo fod yn llai nag 48 awr sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad);

d

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

3

Yn yr Atodlen hon, mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(2).

Hysbysiad cau mangreI1122

1

Os yw naill ai amod 1 neu amod 2 wedi ei fodloni, caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad cau mangre”) i berson cyfrifol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r fangre, neu ran o’r fangre, gael ei chau.

2

Amod 1 yw—

a

bod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi i’r person,

b

bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y person wedi methu â chymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, ac

c

bod y swyddog yn ystyried bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

3

Amod 2 yw bod y swyddog gorfodaeth yn ystyried—

a

nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F6, 17 neu 17A , a

b

bod cau’r fangre, neu ran o’r fangre, (heb fod hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi) yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

4

Rhaid i hysbysiad cau mangre—

a

cynnwys disgrifiad o’r fangre sydd i’w chau,

b

pan fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r mesurau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried—

i

nad ydynt wedi eu cymryd, a

ii

y mae rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y person cyfrifol yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F7, 17 neu 17A ,

c

pan na fo hysbysiad gwella mangre wedi ei ddyroddi, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried nad yw’r person yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliad 16F8, 17 neu 17A ,

d

yn y naill achos neu’r llall, nodi’r rhesymau pam y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried bod cau’r fangre yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddiben lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws,

e

pennu’r cyfnod y mae’r hysbysiad yn cael effaith amdano, ac

f

rhoi manylion yr hawl i apelio a roddir gan baragraff 5.

5

Ni chaniateir i’r cyfnod a bennir o dan is-baragraff (4)(e) fod yn hwy na 672 o oriau (28 o ddiwrnodau) sy’n dechrau â’r amser y dyroddir yr hysbysiad.

6

Mae hysbysiad cau mangre yn cael effaith o’r amser y’i dyroddir neu o amser diweddarach a bennir yn yr hysbysiad.

7

Ni chaniateir dyroddi hysbysiad cau mangre mewn perthynas â mangre sy’n rhan o seilwaith hollbwysig (er enghraifft, mangre a ddefnyddir i gynhyrchu trydan neu gyflenwi dŵr) neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

8

Pan fo—

a

swyddog gorfodaeth yn ystyried bod person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, a

b

naill ai—

i

hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi, neu

ii

achos wedi ei ddwyn am drosedd,

mewn perthynas â’r methiant hwnnw,

caiff y swyddog gorfodaeth serch hynny ddyroddi hysbysiad cau mangre o dan is-baragraff (1).

Effaith hysbysiad cau mangreI1133

1

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i hysbysiad cau mangre gymryd effaith, rhaid i’r person y’i dyroddir iddo sicrhau—

a

bod y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi yn cael ei chau, a

b

na chynhelir unrhyw fusnes neu na ddarperir unrhyw wasanaeth yn y fangre neu ohoni.

2

Ni chaiff unrhyw berson fynd i’r fangre, neu fod yn y fangre, sydd wedi ei chau o dan is-baragraff (1) heb esgus rhesymol.

3

At ddibenion is-baragraff (2), mae’r amgylchiadau pan fo gan berson esgus rhesymol yn cynnwys—

a

pan fo’r person yn byw yn y fangre;

b

pan fo’r person yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio hanfodol;

c

pan fo’r person yn gwneud pethau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17F9neu 17A , pan ganiateir i’r fangre fod ar agor;

d

pan fo’r person yn swyddog gorfodaeth neu berson sy’n cynorthwyo swyddog gorfodaeth;

e

pan fo’n angenrheidiol i’r person fod yn y fangre er mwyn osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

Terfynu hysbysiad gwella neu gau mangreI1144

1

Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad sy’n terfynu hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre os yw wedi ei fodloni—

a

bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad gwella mangre (os dyroddwyd un) wedi eu cymryd, neu

b

bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau y gellir cydymffurfio â rheoliad 16 a, phan fo’n berthnasol, reoliad 17F10neu 17A yn y fangre o dan sylw.

2

Mae hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre yn peidio â chael effaith ar yr amser y dyroddir hysbysiad o’r terfyniad.

ApelauI1155

1

Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.

2

Rhaid i apêl gael ei wneud—

a

drwy gŵyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980, a

b

o fewn 7 niwrnod ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.

3

Ond caiff llys ynadon ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio y tu allan i amser).

4

Caiff llys ynadon atal dros dro effaith hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre wrth aros am y penderfyniad ar yr apêl.

5

Ar apêl yn erbyn hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre, caiff llys ynadon—

a

cadarnhau’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad;

b

cyfarwyddo bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith;

c

addasu’r hysbysiad;

d

gwneud unrhyw orchymyn arall y mae’r llys yn ystyried ei fod yn briodol.

6

Os yw’r llys ynadon yn cyfarwyddo bod hysbysiad i beidio â chael effaith neu’n addasu hysbysiad, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre o dan sylw ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am y fangre am golled a ddioddefir o ganlyniad i ddyroddi’r hysbysiad.

7

Caiff y naill parti neu’r llall ddwyn apêl yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon i Lys y Goron.

8

Ar apêl i Lys y Goron, caiff y Llys—

a

cadarnhau, amrywio neu wrthdroi penderfyniad y llys ynadon;

b

anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.

Annotations:
Commencement Information
I115

Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Dyroddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd a therfyniadauI1166

1

Caiff hysbysiad gwella mangre, hysbysiad cau mangre neu derfyniad o’r naill neu’r llall o’r mathau hynny o hysbysiad ei ddyroddi i berson drwy roi copi ohono yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.

2

Ond pan na fo’r person sy’n gyfrifol am y fangre y mae’r hysbysiad neu’r terfyniad yn ymwneud â hi yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, mae’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddyroddi i’r person—

a

os rhoddir copi ohono i unrhyw berson arall yn y fangre yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw fusnes neu wasanaeth a gynhelir yn y fangre, neu

b

os nad oes unrhyw berson o’r fath yn y fangre pan yw’r hysbysiad i’w ddyroddi, os gosodir copi o’r hysbysiad mewn lle amlwg yn y fangre.

Annotations:
Commencement Information
I116

Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Rhoi cyhoeddusrwydd i hysbysiadau gwella a chau mangreoeddI1177

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth wedi dyroddi hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre.

2

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dyroddi’r hysbysiad, rhaid i’r swyddog gorfodaeth—

a

arddangos copi o’r hysbysiad, ac arwydd ar y ffurf a nodir yn Atodlen 9, mewn man amlwg yn agos i bob mynedfa i’r fangre;

b

trefnu i’r hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r fangre.

3

Rhaid i hysbysiad neu arwydd a arddangosir o dan is-baragraff (2)(a) fod o faint A4 o leiaf.

4

Rhaid i hysbysiad y mae’n ofynnol ei arddangos a’i gyhoeddi o dan is-baragraff (2) barhau i gael ei arddangos a’i gyhoeddi, a rhaid i arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan yr is-baragraff hwnnw barhau i gael ei arddangos, am gyhyd ag y mae’r hysbysiad yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I117

Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Dangos dogfennau etc.I1188

1

Caiff swyddog gorfodaeth, er mwyn hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan yr Atodlen hon, ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion electronig, edrych ar y dogfennau hynny neu’r cofnodion electronig hynny a chymryd copïau ohonynt.

2

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol o dan is-baragraff (1) i berson ddarparu dogfen, cofnod neu wybodaeth arall y gellid maentumio hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol mewn cysylltiad â hi neu ag ef mewn achos cyfreithiol.

Annotations:
Commencement Information
I118

Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ATODLEN 9Y ffurf ar arwydd i fynd gyda hysbysiad gwella mangre neu hysbysiad cau mangre

Rheoliad 26

Yr arwydd sydd i’w arddangos gyda hysbysiad gwella mangre

I1191

1

Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad gwella mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 8 fod ar y ffurf a nodir isod.

2

Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du ac ambr C0 M60 Y100 K0 yn yr arwydd.

Image_r00001

Annotations:
Commencement Information
I119

Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Yr arwydd sydd i’w arddangos gyda hysbysiad cau mangre

I1202

1

Rhaid i arwydd a arddangosir gyda hysbysiad cau mangre o dan baragraff 7(2)(a) o Atodlen 8 fod ar y ffurf a nodir isod.

2

Rhaid defnyddio’r lliwiau gwyn, du a choch C15 M100 Y100 K0 yn yr arwydd.

Image_r00002