2020 Rhif 1612 (Cy. 337)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 22 i’r Ddeddf honno, i’r graddau y daw’r Rheoliadau hyn i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddi3.