Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
31. Yn Atodlen 3—
(a)yn lle’r cyfeirnod cwr tudalen rhodder “Rheoliad 26(1)”;
(b)ym mharagraff 2, yn lle “o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn” hyd at y diwedd rhodder “o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122”;
(c)ym mharagraff 4—
(i)yn is-baragraff (1), yn lle “Reoliad (EU) Rhif 142/2011” rhodder “Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011”;
(ii)hepgorer is-baragraff (2);
(d)yn lle paragraff 5 rhodder—
“Achos 4: Llwythi a gliriwyd ym Mhrydain Fawr
5. Llwythi o anifeiliaid a chynhyrchion o drydydd gwledydd a gyflwynwyd i unrhyw safle rheoli ar y ffin ym Mhrydain Fawr ac a gliriwyd ar gyfer cylchrediad rhydd.”;
(e)ym mharagraff 6(2)(ch), yn lle “mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth” rhodder “mewn Saesneg (p’un a yw’n ymddangos mewn unrhyw iaith arall ai peidio)”.