Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Rhan 6

19.—(1Mae Rhan 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 24—

(a)yn y diffiniadau o “blwyddyn dyfu gyntaf” a “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yn unol â pharagraff 26(2)(c)”;

(b)yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 26(2)(d)”.

(3Ym mharagraff 25—

(a)yn is-baragraff (1), hepgorer “yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC”;

(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—

(a)deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau,

(b)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac

(c)gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(1B) Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;

(b)yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;

(c)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;

(d)ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunyddiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.

(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraff (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.;

(c)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a)(i), yn lle’r geiriau o “Atodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd rhodder “EPPO PM 7/21”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “a bennir” hyd at “98/57/EC” rhodder “y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21”.

(4Ym mharagraff 26—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder—

sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn—

(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;

(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;

(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;

(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;

(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;

(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;

(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;

(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;;

(ii)ym mharagraff (e), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)”;

(ii)ym mharagraff (d), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

(c)yn is-baragraff (4)(d), yn lle “yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;

(d)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) Y “ffactorau perthnasol” yw—

(a)at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—

(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;

(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;

(b)at ddibenion is-baragraff (4)(d)—

(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;

(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;

(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.

(5Ym mharagraff 27—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;

(b)yn is-baragraff (3), yn lle “Cyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “y Rhan hon”.

(6Ym mharagraff 28, yn is-baragraffau (2)(c), (3)(c) a (4)(g), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/21”.

(7Ym mharagraff 30—

(a)yn is-baragraff (7)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 26(3)(d)”;

(ii)ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 26(4)(d)”;

(b)yn is-baragraff (8)(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources