RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20182
1
Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 20183 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2—
a
ym mharagraff (1), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
b
ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, a hepgorer “UE” yn yr ail le y mae’n digwydd.
3
Yn rheoliad 3—
a
ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “rhestrau” hyd at “yr UE”, rhodder “Rhan A o Atodiad 11, neu Atodiad 12, i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau gwarchod rhag plâu planhigion”;
b
ym mharagraff (3)—
i
yn is-baragraff (a), yn lle’r diffiniad o “pla planhigion a reolir” rhodder—
ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin PFA, neu bla Prydain Fawr a reoleiddir nad yw’n destun cwarantin;
ii
hepgorer is-baragraff (aba).
4
Yn rheoliad 4(6)(a), ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”.
5
Yn rheoliad 5A(5), yn y diffiniad o “gwasanaeth cyn-allforio”—
a
hepgorer “i drydedd wlad”;
b
yn lle “gofynion ffytoiechydol y drydedd wlad” rhodder “gofynion mewnforio ffytoiechydol perthnasol o fewn ystyr Erthygl 99a o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.
6
Yn rheoliad 6—
a
ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau o “, at” hyd at “Penderfyniad,”;
b
hepgorer paragraff (2).
7
Hepgorer rheoliad 6A.
8
Yn Atodlen 2, yn y tabl, hepgorer y cofnodion yn y golofn gyntaf, yr ail golofn a’r drydedd golofn sy’n ymwneud â Citrus, Mangifera a Passiflora.