Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Rhan 3

6.—(1Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “drwy’r awyr” mewnosoder “neu i borthladd RoRo yng Nghymru”;

(b)ym mharagraff (4)—

(i)yn y diffiniad o “gweithredwr cyfrifol”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;

(ii)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “porthladd RoRo” (“RoRo port”) yw lleoliad RoRo a restrir o fewn ystyr “RoRo listed location” yn rheoliad 130 o Reoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018(1);.

(3Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

(4Yn rheoliad 10(1)—

(a)yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;

(b)yn is-baragraff (c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

(5Yn rheoliad 11(1)(c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.

(1)

O.S. 2018/1248, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.