Rhan 3
6.—(1) Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “drwy’r awyr” mewnosoder “neu i borthladd RoRo yng Nghymru”;
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn y diffiniad o “gweithredwr cyfrifol”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(ii)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “porthladd RoRo” (“RoRo port”) yw lleoliad RoRo a restrir o fewn ystyr “RoRo listed location” yn rheoliad 130 o Reoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018(1);”.
(3) Yn rheoliad 8—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
(4) Yn rheoliad 10(1)—
(a)yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(b)yn is-baragraff (c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
(5) Yn rheoliad 11(1)(c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
O.S. 2018/1248, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.