RHAN 1Rhagymadrodd
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Mawrth 2020.
Dehongli: cyffredinol2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—
(a)
unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un o reolau iechyd planhigion yr UE yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu
(b)
pla planhigion a reolir;
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—
(a)
na chaniateir dod â hwy i diriogaeth yr Undeb heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—
- (i)
Erthygl 72 neu 74 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE,
- (ii)
penderfyniad brys gan yr UE, neu
- (iii)
unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE, heblaw Erthygl 73 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, neu
(b)
a allforiwyd o diriogaeth yr Undeb i drydedd wlad ac sy’n dychwelyd i diriogaeth yr Undeb ar ôl i’r drydedd wlad honno wrthod mynediad i’r wlad iddynt;
ystyr “penderfyniad brys gan yr UE” (“EU emergency decision”) yw offeryn y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1);
ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—
(a)
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,
(b)
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad brys gan yr UE, neu
(c)
pla planhigion sy’n destun unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE F1, gan gynnwys pla planhigion cwarantin posibl o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 21(3);
ystyr “un o reolau iechyd planhigion yr UE” (“EU plant health rule”) yw rheol o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2)
Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).
Dehongli: offerynnau’r UE ynglŷn ag iechyd planhigion3.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
F2...
F3...
F4ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/885”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/885 o ran mesurau i atal Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu & Goto rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo;
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191” (“Commission Implementing Regulation (EU) 2020/1191”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2020/1191 yn sefydlu mesurau i atal Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos (ToBRFV) rhag cael ei gyflwyno i’r Undeb a lledaenu ynddo.
(2)
Mae cyfeiriadau at y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol ac at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE4.
Mae unrhyw gyfeiriad yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE at bla sy’n destun y mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) yn cynnwys y plâu planhigion a ganlyn—
(a)
Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa. (Orlova-Bienkowskaja), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner);
(b)
Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyuma & Goto;
(c)
Firws rhoséd rhosynnau;
(d)
Firws ffrwythau crychlyd coch tomatos.
Erthygl 82 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE: ystyr “close proximity”5.
(1)
At ddibenion Erthygl 82 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, bernir bod mangre gweithredwr cofrestredig yn un sy’n agos at fangreoedd eraill i’r gweithredwr hwnnw, yn yr ystyr a roddir i “close proximity”, os oes unrhyw bwynt ar ffin ei man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’i fannau gweithredol, o fewn deng milltir i unrhyw bwynt ar ffin y man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’r mannau gweithredol, o’r fangre arall
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “man gweithredol”, mewn perthynas â mangre gweithredwr cofrestredig, yw—
(a)
yn achos mangre a ddefnyddir yn llwyr gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y man sy’n ffurfio’r fangre honno;
(b)
yn achos unrhyw fangre arall a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, man o fewn y fangre a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hynny.
RHAN 2Awdurdodau cymwys: iechyd planhigion
Dynodi awdurdodau cymwys6.
(1)
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am drefnu a chyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yng Nghymru i’r graddau y maent yn ymwneud â’r canlynol—
(a)
plâu planhigion, planhigion, plâu coed, coed, deunydd coedwigaeth neu ddeunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth, neu
(b)
gweithredwyr proffesiynol coedwigaeth neu weithredwyr proffesiynol eraill.
(2)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “coeden” (“tree”) yw coeden neu lwyn byw, neu ran fyw o goeden neu lwyn, ar unrhyw gyfnod yn eu tyfiant;
ystyr “deunydd coedwigaeth” (“forestry material”) yw—
(a)
pren sy’n cadw rhan neu’r cyfan o’i arwyneb crwn naturiol, gyda rhisgl neu hebddo;
(b)
pren ar ffurf sglodion, gronynnau, naddion, blawd llif, gwastraff neu sgrap pren;
(c)
coed conwydd dros 3m o uchder;
(d)
rhisgl sydd wedi ei dynnu neu sydd wedi datgysylltu oddi ar goeden fyw, coeden a gwympwyd neu goeden a syrthiodd, neu oddi ar ran o un o’r rhain;
ystyr “deunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth” (“non-forestry material”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, heblaw deunydd coedwigaeth;
ystyr “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yw pren neu gynhyrchion pren (ac eithrio cynhyrchion papur) a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, i gynnal, diogelu neu gario nwydd o unrhyw fath, gan gynnwys pacin;
ystyr “gweithredwr proffesiynol coedwigaeth” (“forestry professional operator”) yw gweithredwr proffesiynol sy’n cyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn, ond nid unrhyw weithgareddau eraill a ddisgrifir yn Erthygl 2(9) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE—
(a)
cyflwyno deunydd coedwigaeth i Gymru;
(b)
storio, agregu neu symud deunydd coedwigaeth yng Nghymru, symud deunydd coedwigaeth i Gymru o ran arall o diriogaeth yr Undeb neu symud deunydd coedwigaeth o Gymru i ran arall o diriogaeth yr Undeb;
(c)
allforio deunydd coedwigaeth o Gymru i drydedd wlad;
(d)
trin a marcio deunydd pecynnu pren neu ddeunydd coedwigaeth yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15 neu drwsio deunydd pecynnu pren yng Nghymru;
(e)
cyflwyno plâu coed i Gymru, symud plâu coed yng Nghymru neu ddal neu luosi plâu coed yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;
(f)
cyflwyno coed neu ddeunydd coedwigaeth i Gymru neu symud coed neu ddeunydd coedwigaeth yng Nghymru, i’w defnyddio at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;
ystyr “pla coed” (“tree pest”) yw pla planhigion sy’n niweidiol i goed neu bren.
RHAN 3Rheolaethau swyddogol ar lwythi a reolir o drydydd gwledydd a rheolaethau swyddogol eraill ar nwyddau o drydydd gwledydd
Rhanddirymu’r gofyniad i roi hysbysiad ymlaen llaw yn unol ag Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/10137.
(1)
Rhaid i weithredwr cyfrifol llwyth a reolir sydd i’w ddwyn i Gymru drwy’r awyr fod wedi hysbysu’r awdurdod priodol y disgwylir i’r llwyth gyrraedd o leiaf bedair awr waith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.
(2)
Yn achos unrhyw lwyth a reolir sy’n cynnwys, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, logiau heb eu prosesu neu bren wedi ei lifio neu wedi ei sglodio ac sydd i’w ddwyn i Gymru wrth bwynt mynediad sydd â safle rheoli ar y ffin dros dro yn unig, rhaid i’r gweithredwr cyfrifol fod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru fod y llwyth yn cyrraedd o leiaf dri diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd Cymru.
(3)
Nid yw Erthygl 1(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1013 yn gymwys i unrhyw weithredwr cyfrifol ar lwyth a reolir y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2).
(4)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awr waith” (“working hour”) yw cyfnod o un awr yn ystod diwrnod sydd yng Nghymru yn ddiwrnod gwaith, ac mae “oriau gwaith” yn cynnwys oriau yn ystod mwy nag un diwrnod gwaith;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod, heblaw—
(a)
dydd Sadwrn neu ddydd Sul,
(b)
dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu
(c)
ystyr “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”), mewn perthynas â llwyth a reolir, yw gweithredwr y mae’n ofynnol iddo sicrhau bod y llwyth yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol wrth y safle rheoli ar y ffin lle mae’r llwyth yn cyrraedd yr Undeb am y tro cyntaf yn unol ag Erthygl 47(5) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;
Amau bod diffyg cydymffurfiaeth8.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau bod llwyth a reolir neu eitem a reoleiddir yn debygol o gael ei dwyn, neu wedi ei dwyn, i Gymru o drydedd wlad yn groes i un o reolau iechyd planhigion yr UE, neu nad yw unrhyw lwyth neu eitem o’r fath yn cydymffurfio fel arall ag un o reolau iechyd planhigion yr UE.
(2)
Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth a reolir neu’r eitem a reoleiddir—
(a)
yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a
(b)
yn gwahardd y llwyth neu’r eitem rhag dod i diriogaeth yr Undeb,
tra disgwylir canlyniad y rheolaethau swyddogol i gadarnhau neu ddileu’r amheuaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1).
(3)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir p’un a yw eu cyrchfan derfynol yng Nghymru ai peidio.
Llwythi sydd heb eu cyflwyno’n gywir ar gyfer rheolaethau swyddogol9.
Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau neu’n ymwybodol nad yw llwyth a reolir wedi ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn unol ag Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu yn unol â’r gofynion eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(6) o’r Rheoliad hwnnw, rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn adalw’r llwyth ac yn rhoi’r llwyth yng nghadw yn swyddogol.
Mesurau swyddogol mewn perthynas â llwythi nad ydynt yn cydymffurfio neu lwythi sy’n peri risg i iechyd planhigion10.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—
(a)
unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, wedi eu dwyn i Gymru o drydedd wlad yn groes i un o reolau iechyd planhigion yr UE,
(b)
unrhyw lwyth a reolir neu eitem a reoleiddir a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac nad yw fel arall yn cydymffurfio ag un o reolau iechyd planhigion yr UE, neu
(c)
unrhyw lwyth a ddygwyd i Gymru o drydedd wlad ac sydd, ym marn arolygydd iechyd planhigion, yn peri risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o diriogaeth yr Undeb.
(2)
Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth neu’r eitem—
(a)
yn rhoi’r llwyth neu’r eitem yng nghadw yn swyddogol, a
(b)
yn nodi’r mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem.
Hysbysiadau o dan reoliad 8, 9 neu 1011.
(1)
Caiff hysbysiad o dan reoliad 8, 9 neu 10 gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd mewn perthynas â’r llwyth neu’r eitem i ynysu’r llwyth neu’r eitem neu eu gosod mewn cwarantin, neu i ymdrin fel arall â’r risg i iechyd planhigion sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem;
(b)
pan fo arolygydd iechyd planhigion yn ei gwneud yn ofynnol i’r llwyth neu’r eitem gael eu dinistrio neu eu gwaredu fel arall, eu hailallforio neu eu trin, y mesurau y mae’n rhaid i’r gweithredwr cyfrifol eu cymryd i ddinistrio’r llwyth neu’r eitem neu i’w gwaredu fel arall, i’w hailallforio neu i’w trin;
(c)
unrhyw fesurau eraill y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn briodol yng ngoleuni’r toriad tybiedig neu hysbys neu’r risg i iechyd planhigion yng Nghymru neu i unrhyw ran arall o diriogaeth yr Undeb sy’n deillio o’r llwyth neu’r eitem.
(2)
Ym mharagraff (1), mae “gweithredwr cyfrifol” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 8, 9 neu 10 (yn ôl y digwydd).
Safleoedd rheoli ar y ffin: awdurdodi canolfannau arolygu a chyfleusterau storio masnachol12.
(1)
Caiff yr awdurdod priodol roi trwydded sy’n awdurdodi—
(a)
defnyddio cyfleuster a leolir o fewn safle rheoli ar y ffin yn ganolfan arolygu at ddibenion cyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin;
(b)
defnyddio cyfleusterau storio masnachol o fewn cyffiniau agos safle rheoli ar y ffin yn fan lle y gellir cynnal gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol ar lwythi a reolir ac eitemau eraill a reoleiddir pan fyddant yn cyrraedd y safle rheoli ar y ffin.
(2)
Rhaid i gais am drwydded gael ei wneud i’r awdurdod priodol gan weithredwr y cyfleuster neu’r cyfleusterau storio masnachol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(3)
Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleuster yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chanolfannau arolygu yn Erthygl 8 o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(a).
(4)
Dim ond os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y cyfleusterau storio masnachol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir mewn cysylltiad â chyfleusterau storio masnachol yn Erthygl 3(11) o Reoliad (EU) 2019/1014 y caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1)(b).
(5)
Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—
(a)
o dan amodau;
(b)
am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.
(6)
Caiff trwydded a roddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) gynnwys darpariaeth yn caniatáu i’r awdurdod priodol addasu, atal neu ddirymu’r drwydded unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.
(7)
Darpariaeth drosiannol: mannau arolygu a gymeradwywyd13.
(1)
Yn ystod y cyfnod perthnasol caiff yr awdurdod priodol awdurdodi—
(a)
cludo llwyth a reolir i fan arolygu a gymeradwywyd, a
(b)
cyflawni gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gan arolygydd iechyd planhigion mewn man arolygu a gymeradwywyd.
(2)
Rhaid i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth a reolir ac a fwriedir ar gyfer man arolygu a gymeradwywyd—
(a)
rhoi i’r awdurdod priodol y manylion a nodir ym mharagraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn hwyrach na thri diwrnod gwaith cyn i’r llwyth gyrraedd Cymru,
(b)
sicrhau bod y llwyth, ei becyn a’r cerbyd y caiff ei gludo ynddo yn cael eu cau neu eu selio yn y fath fodd fel nad oes risg i’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau yn y llwyth achosi heigiad, haint neu halogiad na risg y bydd newid yn digwydd yng nghynnwys y llwyth, ac
(c)
sicrhau bod dogfen symud iechyd planhigion yn cyd-fynd â’r llwyth.
(3)
Dyma’r manylion—
(a)
enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu a gymeradwywyd y mae’r llwyth wedi ei fwriadu iddo,
(b)
y dyddiad a’r amser y trefnwyd i’r llwyth gyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a),
(c)
os yw ar gael, rhif cyfresol unigol y ddogfen symud iechyd planhigion mewn perthynas â’r llwyth hwnnw,
(d)
os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion,
(e)
enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r gweithredwr, ac
(f)
rhif cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol mewn perthynas â’r llwyth yn unol ag Erthygl 72(1) neu 74(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.
(4)
Rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod priodol ar unwaith mewn ysgrifen am unrhyw newidiadau yn y manylion y mae’r gweithredwr wedi eu rhoi o dan baragraff (2)(a).
(5)
Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi i’r awdurdod priodol yn y cyfeiriad a roddir gan yr awdurdod priodol o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.
(6)
At ddibenion paragraff (1) caiff awdurdod priodol gymeradwyo man y mae llwyth a reolir wedi ei fwriadu ar ei gyfer fel man lle y caniateir i wiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion gael eu cyflawni gan arolygydd iechyd planhigion yn ystod y cyfnod perthnasol.
(7)
Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan baragraff (6) gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
(8)
Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi o dan amodau, gan gynnwys amodau ynglŷn â storio llwythi a reolir, a chaniateir ei thynnu’n ôl unrhyw bryd os nad yw’r awdurdod priodol bellach yn credu bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth ar ei gyfer.
(9)
Dim ond os yw’r man wedi ei gymeradwyo gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i’w ddefnyddio’n gyfleuster storio dros dro y caiff yr awdurdod priodol gymeradwyo man fel man arolygu a gymeradwywyd.
(10)
Yn y rheoliad hwn—
F5...
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu yn union cyn 14 Rhagfyr 2020;
F6mae i “diwrnod gwaith” (“working day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7(4);
ystyr “man arolygu a gymeradwywyd” (“approved place of inspection”) yw man a gymeradwywyd yn fan arolygu gan awdurdod priodol o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018 cyn y dyddiad cychwyn ac sy’n dal wedi ei gymeradwyo yn rhinwedd rheoliad 54(1), neu fan a gymeradwywyd o dan baragraff (6).
RHAN 4Gweithgareddau swyddogol i atal plâu planhigion rhag ymsefydlu neu ledaenu
Rhagymadrodd14.
(1)
Mae’r Rhan hon yn gymwys os bydd arolygydd iechyd planhigion yn amau bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol, neu os bydd yn dod yn ymwybodol bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol, ar unrhyw fangre yng Nghymru.
(2)
Yn y Rhan hon—
ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material” yw—
(a)
planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;
(b)
planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y gwaherddir mynediad iddynt i diriogaeth yr Undeb neu i Gymru o dan un o reolau iechyd planhigion yr UE;
(c)
planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae ei symud o fewn tiriogaeth yr Undeb, neu i Gymru, yng Nghymru neu o Gymru, wedi ei wahardd o dan un o reolau iechyd planhigion yr UE;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol.
Hysbysiadau mewn perthynas â phlâu planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig15.
(1)
Caiff arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r person priodol—
(a)
yn ei gwneud yn ofynnol i’r person priodol drin, dinistrio neu waredu fel arall y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig,
(b)
yn gwahardd am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—
(i)
symud unrhyw bla planhigion a reolir neu unrhyw ddeunydd gwaharddedig ymaith o’r fangre, neu
(ii)
unrhyw weithgaredd y mae’r arolygydd o’r farn ei bod yn angenrheidiol ei wahardd er mwyn atal pla planhigion a reolir rhag ymsefydlu neu ledaenu,
(c)
yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael eu symud ymaith o’r fangre, neu
(d)
yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau eraill gael eu cymryd, fel y’u pennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r pla planhigion a reolir neu i’w atal rhag ymsefydlu neu ledaenu.
(2)
Os oes gan arolygydd iechyd planhigion sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu sicrhau y dilëir unrhyw bla planhigion a reolir, o unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gam rhesymol gael ei gymryd at y diben hwnnw.
(3)
Ym mharagraff (1), ystyr “person priodol” yw—
(a)
yn achos mangre a ddefnyddir gan weithredwr proffesiynol, y gweithredwr proffesiynol;
(b)
yn achos unrhyw fangre arall—
(i)
y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;
(ii)
unrhyw berson arall sydd â gofal am y pla planhigion a reolir neu’r deunydd gwaharddedig yn y fangre honno.
Camau y caiff arolygydd iechyd planhigion eu cymryd16.
(1)
Caiff arolygydd iechyd planhigion, o roi hysbysiad rhesymol, fynd i mewn i unrhyw fangre ac unrhyw fangre gyfagos at ddiben cymryd camau i wneud y canlynol—
(a)
dileu neu ddinistrio unrhyw bla planhigion a reolir, neu ddelio ag ef fel arall,
(b)
atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu, neu
(c)
dinistrio neu drin unrhyw ddeunydd a heintiwyd, neu ddelio ag ef fel arall.
(2)
Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).
(3)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4)
Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill (gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd) gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5)
Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)
aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)
dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)
cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
(6)
Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd a heintiwyd” yw—
(a)
planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;
(b)
planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall nad yw’n cario pla planhigion a reolir, neu nad yw wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, ond y gallai eu presenoldeb neu eu bodolaeth, ym marn arolygydd iechyd planhigion, beri i bla planhigion a reolir ledu neu gael ei ledaenu.
Sefydlu ardaloedd a ddarnodir a mesurau sydd i’w cymryd yn yr ardaloedd hynny17.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod priodol wedi cadarnhau’n swyddogol bresenoldeb pla planhigion a reolir nad yw’n hysbys ei fod yn bresennol yng Nghymru neu bresenoldeb pla planhigion a reolir mewn ardal o Gymru lle nad oedd yn bresennol o’r blaen.
(2)
Caiff awdurdod priodol drwy hysbysiad—
(a)
darnodi ardal mewn perthynas â phresenoldeb y pla planhigion a reolir at ddiben dileu neu gyfyngu’r pla planhigion;
(b)
pennu’r gwaharddiadau neu’r cyfyngiadau sydd i fod yn gymwys i’r ardal a ddarnodir at y diben hwnnw.
(3)
O ran hysbysiad o dan baragraff (2)—
(a)
rhaid iddo fod mewn ysgrifen;
(b)
rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled yr ardal a ddarnodir;
(c)
rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau o’r fath yn cychwyn;
(d)
rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd;
(e)
caniateir iddo gael ei ddiwygio neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.
RHAN 5Mesurau gwladol dros dro ynglŷn ag iechyd planhigion
Atodlen 118.
Mae Atodlen 1 yn cynnwys mesurau dros dro ychwanegol i atal plâu planhigion penodol a reolir rhag dod i Gymru, neu ymsefydlu yng Nghymru, neu ledaenu yng Nghymru.
RHAN 6Cofrestru, awdurdodiadau a thystysgrifau ynglŷn ag iechyd planhigion
Ceisiadau am gofrestru19.
Rhaid i gais am gofrestru yn unol ag Erthygl 66(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE sydd i’w gyflwyno i awdurdod priodol gael ei gyflwyno yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
Ceisiadau eraill20.
(1)
Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—
(a)
cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;
(b)
cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE—
(i)
Erthygl 64(2),
(ii)
Erthygl 89(1), neu
(iii)
Erthygl 98(1);
(c)
cais am ddyroddi tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.
(2)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, penderfyniad brys gan yr UE neu un arall o reolau iechyd planhigion yr UE ac sy’n golygu—
(a)
cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,
(b)
symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,
(c)
dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu
(d)
lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.
Awdurdodi at ddibenion eraill21.
F7(1)
Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—
(a)
cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,
(b)
cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu
(c)
cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn.
(2)
Rhaid i gais am unrhyw awdurdodiad o’r fath gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.
F8(3)
Ym mharagraff (1)—
ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin yr Undeb, yn bla cwarantin parth gwarchodedig nac yn bla planhigion sy’n destun unrhyw fesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;
ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—
(a)
rhanddirymiad darpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a nodir mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu
(b)
rhanddirymiad unrhyw benderfyniad o fewn ystyr Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dal yn gymwys at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn ac sy’n caniatáu i’r Aelod-wladwriaethau awdurdodi gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd gan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE neu odano.
Awdurdodiadau a roddir gan awdurdod priodol22.
(1)
Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—
(a)
o dan amodau;
(b)
am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.
(2)
Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.
RHAN 7Mesurau ynglŷn â rhywogaethau mochlysaidd penodol
Atodlen 223.
Mae Atodlen 2 yn cynnwys mesurau penodol ynglŷn â rhywogaethau mochlysaidd penodol.
RHAN 8Gofynion o ran hysbysiadau: iechyd planhigion
Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â thatws hadyd24.
(1)
Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag unrhyw un neu ragor o’r tatws a ganlyn i Gymru, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad y disgwylir iddynt gyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—
(a)
tatws hadyd a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir, neu
(b)
tatws, heblaw tatws hadyd, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yng Ngwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu Sbaen.
(2)
Dyma’r materion—
(a)
yr amser a’r dyddiad y disgwylir iddynt gyrraedd,
(b)
eu diben arfaethedig,
(c)
eu cyrchfan arfaethedig,
(d)
eu hamrywogaeth a’u nifer, ac
(e)
rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.
(3)
Ym mharagraff (1)(b), ystyr “Sbaen” yw’r rhan honno o Sbaen sydd wedi ei chynnwys o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, heblaw Ynysoedd Baleares.
Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â ffrwythau sitrws25.
(1)
Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n cyflwyno ffrwythau sitrws hysbysadwy i diriogaeth yr Undeb drwy safle rheoli ar y ffin mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb, cyn iddynt gyrraedd y safle rheoli hwnnw ar y ffin, roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2).
(2)
Dyma’r materion—
(a)
y dyddiad y disgwylir eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd;
(b)
enw’r safle rheoli ar y ffin;
(c)
eu swm;
(d)
rhifau adnabod eu cynwysyddion;
(e)
enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd yng Nghymru lle maent i gael eu prosesu.
(3)
Ym mharagraff (1)—
ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn;
ystyr “ffrwythau sitrws hysbysadwy” (“notifiable citrus fruits”) yw ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., yn tarddu o drydedd wlad, sydd i’w prosesu’n ddiwydiannol yn sudd yng Nghymru.
Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â phlanhigion a chynhyrchion planhigion eraill26.
(1)
Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag unrhyw un neu ragor o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion a ganlyn i Gymru, cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru neu heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—
(a)
planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L. a fwriedir i’w plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall,
(b)
planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L. a fwriedir i’w plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yn y Swistir ac nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddynt, neu
(c)
pren tanwydd solet o Aelod-wladwriaeth arall, neu bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddo.
(2)
Dyma’r materion—
(a)
y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd neu, os yw’r llwyth wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y cyrhaeddodd Gymru gyntaf;
(b)
cyrchfan arfaethedig y llwyth, neu os yw’r llwyth wedi cyrraedd ei gyrchfan arfaethedig yng Nghymru, ei leoliad presennol;
(c)
genws, rhywogaeth a nifer y planhigion neu’r pren yn y llwyth;
(d)
y wlad y traddodwyd neu y traddodir y planhigion neu’r pren ohoni;
(e)
yn achos planhigion y bwriedir eu plannu, rhif adnabod cyflenwr y planhigion;
(f)
yn achos pren tanwydd solet—
(i)
cyfeiriad y traddodwr, a
(ii)
manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.
(3)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “pren tanwydd solet” yw pren tanwydd ar ffurf logiau, plociau, brigau, ffagodau neu ffurfiau tebyg eraill.
RHAN 9Pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion a gorfodi
Dehongli27.
(1)
Yn y Rhan hon—
mae “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yn cynnwys unrhyw bren neu wrthrych arall y mae’n ofynnol ei drin a’i farcio yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;
ystyr “nod SRFFf 15” (“ISPM 15 mark”) yw’r nod y cyfeirir ato yn Erthygl 96(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y gellir ei osod ar ddeunydd pecynnu pren i dystio ei fod wedi ei drin yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15.
(2)
At ddibenion rheoliadau 32 a 33, mae person yn gosod nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren “yn anghywir” os yw’r person yn gosod y nod heblaw yn y modd a bennir yn Erthygl 96(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, fel y’i darllenir gydag Erthygl 97(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.
Pwerau mynediad28.
(1)
Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—
(a)
cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—
(i)
bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,
(ii)
bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE,
(iii)
bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, neu
(iv)
bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE neu i’r gofynion yn Atodlen 1 yn cydymffurfio â’r rheol honno neu’r gofynion hynny;
(b)
cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;
(c)
gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;
(d)
dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;
(e)
canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2)
Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).
(3)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.
(4)
Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—
(a)
archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;
(b)
yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;
(c)
cymryd samplau—
(i)
o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,
(ii)
o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu
(iii)
o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;
(d)
agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;
(e)
arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.
(5)
Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.
(6)
Caiff arolygydd iechyd planhigion—
(a)
dod ag—
(i)
cynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod cymwys a ddynodwyd o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu
(ii)
unrhyw bersonau eraill y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol, a
(b)
dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(7)
Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n dod â pherson a grybwyllir ym mharagraff (6)(a)(i)—
(a)
dangos i’r person unrhyw ddogfennau neu gofnodion a arolygir gan yr arolygydd o dan baragraff (4)(e), a
(b)
gwneud copïau, neu ei gwneud yn ofynnol bod copïau yn cael eu gwneud o’r dogfennau neu’r cofnodion hynny ar gyfer y person hwnnw.
(8)
Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)(ii)—
(a)
aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)
dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)
cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir gan ynad heddwch29.
(1)
Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan reoliad 16(1), 28(1) neu 31(1), gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)
bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a
(b)
bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2)
Dyma’r amodau—
(a)
bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(b)
y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre,
(c)
bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu
(d)
bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(3)
Mae gwarant yn ddilys am un mis.
(4)
Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.
Hysbysiadau gwybodaeth30.
(1)
Caiff arolygydd iechyd planhigion neu unrhyw swyddog arall i awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth a all fod gan y person ynghylch—-
(a)
y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a storiwyd unrhyw bryd yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad,
(b)
unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b), neu
(c)
y personau sydd wedi cael, neu sy’n debygol o fod wedi cael, unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.
(2)
Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.
(3)
Rhaid i berson priodol ddangos unrhyw awdurdodiad, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a bennir yn yr hysbysiad i’w harchwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.
(4)
Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw—
(a)
mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), person sy’n berchennog, yn feddiannydd neu’n berson arall sydd â gofal am y fangre,
(b)
person y mae neu y bu ganddo feddiant o’r canlynol neu ofal amdanynt, neu y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r swyddog amau bod ganddo, neu y bu ganddo feddiant ohonynt neu ofal amdanynt—
(i)
pla planhigion a reolir,
(ii)
unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a oedd yn cario pla planhigion a reolir neu a oedd wedi ei heigio neu wedi ei heintio gan bla planhigion a reolir, neu
(iii)
unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau eu bod wedi eu mewnforio i Gymru neu wedi eu hallforio ohoni, neu
(c)
person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu pla planhigion a reolir, wedi ei gynnig ar werth neu wedi ei waredu fel arall.
Methu â chydymffurfio â hysbysiad31.
(1)
Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.
(2)
Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
F9(3)
Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)
i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd, neu
(b)
mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4A.
(4)
Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill (gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd) gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5)
Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)
aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)
dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)
cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Tynnu nod SRFFf 15 oddi ar ddeunydd pecynnu pren32.
Pan fo arolygydd yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod y nod SRFFf 15 wedi ei osod yn anghywir ar ddeunydd pecynnu pren, caiff arolygydd iechyd planhigion dynnu’r nod neu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson arall ei dynnu.
Marcio deunydd pecynnu pren: pŵer ymafael33.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod person wedi gosod yn anghywir, neu’n bwriadu gosod yn anghywir, y nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren mewn unrhyw fangre yng Nghymru.
(2)
Caiff yr arolygydd iechyd planhigion ymafael mewn unrhyw stensil, templed neu eitem arall o offer y mae’n ymddangos i’r arolygydd y gellid eu defnyddio i osod y nod SRFFf 15, oddi wrth y person hwnnw neu o’r fangre honno a’u cadw.
(3)
Os nad yw’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn ei bod yn ymarferol, am y tro, i’r arolygydd ymafael mewn unrhyw eitem a’i symud ymaith, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre sicrhau na chaiff yr eitem ei symud ymaith ac nad ymyrrir â’r eitem fel arall nes y gall yr arolygydd ymafael ynddi a’i symud ymaith.
(4)
Rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person priodol—
(a)
yn nodi’r hyn yr ymafaelwyd ynddo a’r rheswm dros ymafael ynddo;
(b)
yn esbonio effaith paragraffau (5) i (12).
(5)
Caniateir i unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff (2) gael ei chadw gan Weinidogion Cymru am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau, ac yn benodol at ddibenion achos cyfreithiol mewn perthynas â throsedd a bennir yn rheoliad 38(1).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r llys ynadon am fforffedu unrhyw eitem a gedwir o dan baragraff (5).
(7)
Pan wneir cais o dan baragraff (6), caiff y llys orchymyn i’r eitem gael ei fforffedu os yw’r llys wedi ei fodloni—
(a)
bod trosedd a bennir yn rheoliad 38(1) wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â hi, neu
(b)
ei bod wedi ei defnyddio wrth gyflawni trosedd o’r fath.
(8)
Os yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, caiff Gweinidogion Cymru ei gwaredu ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(9)
Os nad yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, rhaid iddo orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol.
(10)
Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi ar y person priodol yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru at ddibenion sicrhau bod eitem yn cael ei fforffedu o dan baragraffau (6) i (8).
(11)
Pan awdurdodwyd cadw unrhyw eitem o dan y rheoliad hwn, ond nad yw hynny wedi ei awdurdodi mwyach—
(a)
rhaid i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol;
(b)
caiff y person priodol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd.
(12)
Pan fo’n ofynnol i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol a bod ymdrechion rhesymol wedi eu gwneud, heb lwyddiant, i ddychwelyd yr eitem i’r person hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru waredu’r eitem ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.
(13)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “person priodol” yw—
(a)
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson, y person yr ymafaelwyd yn yr eitem oddi wrtho;
(b)
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi o fangre, y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;
(c)
yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson neu o fangre nad yw’n perthyn i berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), y person y mae’n perthyn iddo ac sy’n haeru perchnogaeth drosti.
(14)
Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar bwerau arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 32.
Datgelu gwybodaeth a ddelir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi34.
(1)
Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth yn eu meddiant i awdurdod priodol at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r awdurdod priodol i gyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn, neu yn rhinwedd y rhain.
(2)
Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.
Datgelu gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill35.
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth i unrhyw awdurdod cymwys arall mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2)
Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.
RHAN 10Darpariaethau cyffredinol ac atodol ynglŷn â hysbysiadau iechyd planhigion
Darpariaethau amrywiol ynglŷn â hysbysiadau36.
(1)
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion o dan y Rheoliadau hyn heblaw hysbysiad a roddir o dan reoliad 33(4) F10neu Atodlen 4A.
(2)
Caiff yr hysbysiad—
(a)
pennu—
(i)
un neu ragor o ofynion neu ofynion amgen;
(ii)
ym mha fodd ac ym mha gyfnod y mae’n rhaid cyflawni unrhyw ofyniad neu amod a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b)
ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall y mae’n ymddangos ei fod â gofal am y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi—
(i)
hysbysu’r awdurdod priodol am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd, a
(ii)
rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.
(3)
Rhaid i unrhyw waith i ddinistrio, gwaredu, ailallforio neu drin planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu bla planhigion y mae’n ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad gael ei wneud neu rhaid trefnu iddo gael ei wneud, er boddhad arolygydd iechyd planhigion gan y person y mae’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddo o’r man a bennir yn yr hysbysiad neu yn y man hwnnw.
(4)
Caiff arolygydd iechyd planhigion ddiwygio’r hysbysiad neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad pellach.
(5)
Caiff yr hysbysiad ddiffinio hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad drwy gyfeirio at fap neu blan neu fel arall.
Cyflwyno hysbysiadau37.
(1)
Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i weithredwr cofrestredig—
(a)
drwy ei ddanfon yn bersonol,
(b)
drwy ei adael yng nghyfeiriad cysylltu’r gweithredwr cofrestredig, neu ei anfon yno drwy’r post, neu
(c)
drwy ei anfon at y cyfeiriad ebost y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.
(2)
Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i unrhyw berson arall—
(a)
drwy ei ddanfon yn bersonol,
(b)
drwy ei adael yng nghartref neu fan busnes hysbys diwethaf y person, neu ei anfon yno drwy’r post, neu
(c)
drwy ei anfon at unrhyw gyfeiriad ebost y mae’r person wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau
(3)
Os oes hysbysiad i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion F11neu’r awdurdod priodol i feddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.
(4)
Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno—
(a)
yn achos corff corfforedig (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw,
(b)
yn achos partneriaeth (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth, neu
(c)
yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.
(5)
At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni a gofrestrwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
(6)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfeiriad cysylltu” (“contact address”), mewn perthynas â gweithredwr cofrestredig, yw—
(a)
prif gyfeiriad y gweithredwr yn y gofrestr, neu
(b)
unrhyw gyfeiriad post arall yng Nghymru y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol fel cyfeiriad cysylltu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion F12neu’r awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn.
RHAN 11Troseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion
Cyffredinol38.
(1)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n torri’r canlynol, neu’n methu â chydymffurfio â hwy—
(a)
rheoliad 24(1), 25(1) neu 26(1);
(b)
paragraff 2 neu 4 o Atodlen 1;
(c)
paragraffau 2(1) neu (2), 5(1) neu (2), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15, 20(1), 21(7), 22(2), 27(1), 28(7), 29(2) neu 31(2) o Atodlen 2;
(d)
un o ddarpariaethau Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;
(e)
un o ddarpariaethau’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n gymwys i blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE);
(f)
darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall yr UE a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;
(g)
darpariaeth mewn unrhyw benderfyniad brys gan yr UE a bennir yn Atodlen 4.
(2)
Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw beth a wneir o dan y canlynol, neu yn unol â hwy—
(a)
awdurdodiad neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn;
(b)
cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 13(6) neu gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 54(1);
(c)
hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion neu awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn, neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
Methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiadau etc.39.
F13(1)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â’r canlynol—
(a)
darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn,
(b)
darpariaeth neu amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd i’r person o dan y Rheoliadau hyn neu sy’n cael effaith o dan y Rheoliadau hyn neu yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, neu
(c)
darpariaeth neu amod mewn cyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
F14(2)
Nid yw paragraff (1)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Atodlen 4A.
Amddiffyniad: esgus rhesymol40.
Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 38 neu 39 ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros dorri’r gwaharddiad neu’r gofyniad o dan sylw neu dros fethu â chydymffurfio â hwy.
Darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol41.
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion neu dystysgrif—
(a)
yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,
(b)
yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu
(c)
yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
Defnyddio pasbortau planhigion neu dystysgrifau yn amhriodol42.
(1)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)
yn dyroddi pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest,
(b)
yn newid pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest, neu
(c)
yn ailddefnyddio pasbort planhigion neu dystysgrif yn anonest.
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “tystysgrif” yw tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu dystysgrif cyn-allforio.
Rhwystro43.
(1)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)
yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,
(b)
heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu
(c)
yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol.
Trosedd ynglŷn â datgelu gwybodaeth a ddelir gan Gyllid a Thollau44.
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n datgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o dan reoliad 34(1) ac—
(a)
bod yr wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad,
(b)
bod y datgeliad yn ddatgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir yn rheoliad 34(1), ac
(c)
nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.
Amddiffyniad: datgelu cyfreithlon45.
Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan reoliad 44 brofi ei fod yn credu’n rhesymol—
(a)
bod y datgeliad yn gyfreithlon, neu
(b)
bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd yn flaenorol a hynny mewn modd cyfreithlon.
Troseddau gan gyrff corfforedig46.
(1)
Pan fo trosedd o dan y Rhan hon F15neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd—
(a)
wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)
i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw—
(a)
cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu
(b)
person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o’r fath.
(3)
Os yw materion corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforedig.
Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig47.
(1)
Rhaid i achos am drosedd o dan y Rhan hon F16neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop) yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2)
At ddibenion achosion o’r fath—
(a)
mae rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig, a
(3)
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rhan hon i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4)
Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan bartneriaeth—
(a)
wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu
(b)
i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner,
mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(5)
Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6)
Os profir bod trosedd o dan y Rhan hon a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (heblaw partneriaeth)—
(a)
wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu
(b)
i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7)
Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—
(a)
un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu
(b)
person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn swyddogaeth o’r fath.
Cosbau48.
(1)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 38(1), 39, 41, 42 neu 43 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(2)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 44 yn agored—
(a)
ar gollfarn ddiannod, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, i ddirwy neu i’r ddau;
(b)
ar gollfarn ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau.
F17RHAN 11ASancsiynau Sifil
Sancsiynau sifil48A.
Mae Atodlen 4A (sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil) yn cael effaith.
RHAN 12Amrywiol: iechyd planhigion
Diwygiadau mân a chanlyniadol49.
Mae Atodlen 5 yn cynnwys diwygiadau mân a chanlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion.
Dirymu offerynnau iechyd planhigion50.
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.
Darpariaethau trosiannol: trwyddedau o dan erthygl 39(1) o Orchymyn 2005 neu erthygl 41(1) o Orchymyn 201851.
(1)
Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 39(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 41(1) o Orchymyn 2018, sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol fel pe bai wedi ei rhoi gan yr awdurdod priodol yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 ar y dyddiad y’i rhoddwyd o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018
(2)
Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.
(3)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.
(4)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”), mewn perthynas â thrwydded, yw—
(a)
os yw’r drwydded yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 31 Rhagfyr 2020, neu
(b)
os yw’r drwydded yn dod i ben cyn 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y drwydded i’r drwydded ddod i ben;
Darpariaethau trosiannol: trwyddedau eraill o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 201852.
(1)
Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 38(1)(a) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 40(1)(a) o Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym fel pe bai’n awdurdodiad a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan reoliad 21(1)(a) ar y dyddiad y rhoddwyd y drwydded o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018.
(2)
Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.
(3)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.
Darpariaethau trosiannol: hysbysiadau53.
(1)
(a)
yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn at ddiben cyfatebol ar y dyddiad y rhoddwyd ef o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 (yn ôl y digwydd), a
(b)
i’w ddarllen gydag unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddo wneud hynny.
(2)
Ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at unrhyw hysbysiad o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 yn cynnwys unrhyw gymeradwyaeth swyddogol a roddwyd at ddibenion yr hysbysiad.
Darpariaethau trosiannol: cymeradwyaethau a roddwyd o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 201854.
(1)
Mae unrhyw gymeradwyaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2018 sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chymeradwyaeth a roddwyd o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018, yw—
(a)
os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben ar neu ar ôl 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 13 Rhagfyr 2020, neu
(b)
os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben cyn 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth i’r gymeradwyaeth ddod i ben.
RHAN 13Rheolaethau swyddogol mewn perthynas ag organeddau a addaswyd yn enetig
Diwygio is-ddeddfwriaeth ar reolaethau swyddogol mewn perthynas ag organeddau a addaswyd yn enetig55.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol”, yn lle “is-baragraffau (a), (c), (d), (e) ac (f)” rhodder “is-baragraffau (a) i (f)”.
(3)
Yn rheoliad 13(5)(b), yn y testun Cymraeg, ar ôl “bodlonir” mewnosoder “un”.