Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi eu heffaith i’r canlynol—

(a)Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4) (“Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”), a

(b)Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y maent yn gymwys i’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2)(g) (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1) (“y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”).

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gweithredu’r canlynol o ran Cymru—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 69/464/EEC ynghylch rheoli Clefyd y Ddafaden Tatws (OJ Rhif L 323, 24.12.1969, t. 1),

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynghylch rheoli pydredd cylch tatws (OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t. 1),

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynghylch rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. (OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1), a

(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ynghylch rheoli Llyngyr tatws (OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12).

Cyflwyno materion a wneir yn Rhan 1 ac mae’n cynnwys diffiniadau. Mae rheoliad 3(2) yn darparu i gyfeiriadau at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1), ac at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a restrir yn rheoliad 3(1), gael eu darllen fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.

Mae rheoliad 6 (yn Rhan 2) yn dynodi Gweinidogion Cymru fel yr awdurdod cymwys yng Nghymru at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE a’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

Mae Rhan 3 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth mewn perthynas â llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd sy’n dod o dan reolaethau swyddogol wrth ddod i mewn i’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 4 yn cynnwys pwerau i alluogi arolygwyr iechyd planhigion a benodir gan Weinidogion Cymru i gymryd mesurau i atal plâu planhigion niweidiol yng Nghymru rhag ymsefydlu neu ledaenu.

Mae Rhan 5 ac Atodlen 1 yn gosod mesurau dros dro ychwanegol i atal plâu planhigion niweidiol penodol rhag dod i Gymru neu ymsefydlu neu ledaenu yng Nghymru.

Mae Rhan 6 yn gwneud rhagor o ddarpariaeth mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr proffesiynol a rhoi awdurdodiadau i weithredwyr proffesiynol gan Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 7 ac Atodlen 2 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â rhywogaethau mochlysaidd penodol (tatws a thomatos) i roi’r Cyfarwyddebau a grybwyllir uchod ar waith.

Mae Rhan 8 yn gosod gofynion ychwanegol o ran hysbysu ynglŷn â phlanhigion a chynhyrchion planhigion penodol sydd i’w dwyn i Gymru o drydydd gwledydd, Aelod-wladwriaethau eraill neu’r Swistir.

Mae Rhan 9 yn nodi pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion i’w galluogi i gyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, a gorfodi Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ac atodol mewn perthynas â hysbysiadau a roddir gan arolygwyr iechyd planhigion.

Mae Rhan 11 yn cynnwys troseddau am beidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac offerynnau eraill yr UE, a throseddau mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 48 yn nodi’r cosbau am y troseddau hyn.

Mae Rhan 12 yn ymdrin â mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth, dirymiadau a darpariaethau trosiannol mewn perthynas â deddfwriaeth iechyd planhigion.

Mae Rhan 13 yn diwygio’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 i estyn darpariaethau penodol yn y Rheoliadau hynny sy’n ymwneud â gweithredu a gorfodi Rheoliad (EU) 2017/625 i reolaethau swyddogol ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i’r amgylchedd at ddibenion cynhyrchu bwyd a bwyd anifeiliaid.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y gangen Iechyd Planhigion a Diogelu’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Aberystwyth SY23 3UR.