RHAN 1Rhagymadrodd
Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 27 Mawrth 2020.
Dehongli: cyffredinol2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—
(a)
unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un F1o’r rheolau iechyd planhigion yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu
(b)
pla planhigion a reolir;
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—
(a)
na chaniateir dod â hwy i F2Brydain Fawr heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—
F6...
F7ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;
ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) F8o’r Rheoliad Iechyd Planhigion;
ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—
(a)
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, F92A, 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,
(b)
F10...
F13ystyr “rheol iechyd planhigion” (“plant health rule”) yw rheol o’r fath a grybwyllir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;
ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys F15i’r rheolau iechyd planhigion;
F16...
(2)
Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn F17y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn F17y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).
Dehongli: offerynnau’r UE ynglŷn ag iechyd planhigionF183.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UEF194.
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Erthygl 82 F20o’r Rheoliad Iechyd Planhigion : ystyr “close proximity”5.
(1)
At ddibenion Erthygl 82 F21o’r Rheoliad Iechyd Planhigion , bernir bod mangre gweithredwr cofrestredig yn un sy’n agos at fangreoedd eraill i’r gweithredwr hwnnw, yn yr ystyr a roddir i “close proximity”, os oes unrhyw bwynt ar ffin ei man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’i fannau gweithredol, o fewn deng milltir i unrhyw bwynt ar ffin y man gweithredol, neu ar ffin unrhyw un neu ragor o’r mannau gweithredol, o’r fangre arall
(2)
Ym mharagraff (1), ystyr “man gweithredol”, mewn perthynas â mangre gweithredwr cofrestredig, yw—
(a)
yn achos mangre a ddefnyddir yn llwyr gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) F22o’r Rheoliad Iechyd Planhigion , y man sy’n ffurfio’r fangre honno;
(b)
yn achos unrhyw fangre arall a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir yn Erthygl 65(1) F22o’r Rheoliad Iechyd Planhigion , man o fewn y fangre a ddefnyddir gan y gweithredwr cofrestredig i gyflawni unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau hynny.