RHAN 10LL+CDarpariaethau cyffredinol ac atodol ynglŷn â hysbysiadau iechyd planhigion
Darpariaethau amrywiol ynglŷn â hysbysiadauLL+C
36.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad a roddir gan arolygydd iechyd planhigion o dan y Rheoliadau hyn heblaw hysbysiad a roddir o dan reoliad 33(4) [F1neu Atodlen 4A].
(2) Caiff yr hysbysiad—
(a)pennu—
(i)un neu ragor o ofynion neu ofynion amgen;
(ii)ym mha fodd ac ym mha gyfnod y mae’n rhaid cyflawni unrhyw ofyniad neu amod a bennir yn yr hysbysiad, neu
(b)ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall y mae’n ymddangos ei fod â gofal am y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi—
(i)hysbysu’r awdurdod priodol am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd, a
(ii)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.
(3) Rhaid i unrhyw waith i ddinistrio, gwaredu, ailallforio neu drin planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu bla planhigion y mae’n ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad gael ei wneud neu rhaid trefnu iddo gael ei wneud, er boddhad arolygydd iechyd planhigion gan y person y mae’r hysbysiad wedi ei gyflwyno iddo o’r man a bennir yn yr hysbysiad neu yn y man hwnnw.
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddiwygio’r hysbysiad neu ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad pellach.
(5) Caiff yr hysbysiad ddiffinio hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad drwy gyfeirio at fap neu blan neu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 36(1) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 36 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Cyflwyno hysbysiadauLL+C
37.—(1) Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i weithredwr cofrestredig—
(a)drwy ei ddanfon yn bersonol,
(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad cysylltu’r gweithredwr cofrestredig, neu ei anfon yno drwy’r post, neu
(c)drwy ei anfon at y cyfeiriad ebost y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.
(2) Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno i unrhyw berson arall—
(a)drwy ei ddanfon yn bersonol,
(b)drwy ei adael yng nghartref neu fan busnes hysbys diwethaf y person, neu ei anfon yno drwy’r post, neu
(c)drwy ei anfon at unrhyw gyfeiriad ebost y mae’r person wedi ei roi i’r awdurdod priodol ar gyfer cyflwyno hysbysiadau
(3) Os oes hysbysiad i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion [F2neu’r awdurdod priodol] i feddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.
(4) Caniateir i hysbysiad gael ei gyflwyno—
(a)yn achos corff corfforedig (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw,
(b)yn achos partneriaeth (heblaw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth, neu
(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.
(5) At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni a gofrestrwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.
(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfeiriad cysylltu” (“contact address”), mewn perthynas â gweithredwr cofrestredig, yw—
prif gyfeiriad y gweithredwr yn y gofrestr, neu
unrhyw gyfeiriad post arall yng Nghymru y mae’r gweithredwr wedi ei roi i’r awdurdod priodol fel cyfeiriad cysylltu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion [F3neu’r awdurdod priodol] o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 37(3) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(4)(a)
F3Geiriau yn rhl. 37(6) wedi eu mewnosod (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 37 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1