49. Mae Atodlen 5 yn cynnwys diwygiadau mân a chanlyniadol i is-ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 49 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
50. Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 6 wedi eu dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 50 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
51.—(1) Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 39(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 41(1) o Orchymyn 2018, sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol fel pe bai wedi ei rhoi gan yr awdurdod priodol yn unol ag Erthygl 5 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 ar y dyddiad y’i rhoddwyd o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018, Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC” (“Commission Directive 2008/61/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC yn sefydlu o dan ba amodau y caniateir cyflwyno rhai organeddau niweidiol, planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’r Gymuned neu i barthau gwarchodedig penodol ynddi, neu eu symud yn y Gymuned neu’r parthau hynny, at ddibenion treialon neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddethol amrywogaethau(1);
ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”), mewn perthynas â thrwydded, yw—
os yw’r drwydded yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 31 Rhagfyr 2020, neu
os yw’r drwydded yn dod i ben cyn 31 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y drwydded i’r drwydded ddod i ben;
ystyr “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829” (“Commission Delegated Regulation (EU) 2019/829”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/829 yn ategu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion, yn awdurdodi’r Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau dros dro oherwydd dibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 51 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
52.—(1) Mae unrhyw drwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 38(1)(a) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 40(1)(a) o Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym fel pe bai’n awdurdodiad a roddwyd gan yr awdurdod priodol o dan reoliad 21(1)(a) ar y dyddiad y rhoddwyd y drwydded o dan Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw beth a gyflawnwyd cyn y dyddiad cychwyn, o dan y drwydded neu at ddibenion y drwydded.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y drwydded at Orchymyn 2005, Gorchymyn 2018 neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth gyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn neu o dan y Rheoliad hwnnw neu’r Rheoliadau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 52 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
53.—(1) Mae unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006(3) neu Orchymyn 2018 ac sy’n cael effaith ar y dyddiad cychwyn—
(a)yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan y Rheoliadau hyn at ddiben cyfatebol ar y dyddiad y rhoddwyd ef o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 (yn ôl y digwydd), a
(b)i’w ddarllen gydag unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddo wneud hynny.
(2) Ym mharagraff (1), mae’r cyfeiriad at unrhyw hysbysiad o dan Orchymyn 2005, Gorchymyn Iechyd Planhigion (Marcio Deunydd Pecynnu Pren) (Coedwigaeth) 2006 neu Orchymyn 2018 yn cynnwys unrhyw gymeradwyaeth swyddogol a roddwyd at ddibenion yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 53 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
54.—(1) Mae unrhyw gymeradwyaeth a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2018 sydd mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn yn parhau mewn grym ac yn parhau i gael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “cyfnod perthnasol”, mewn perthynas â chymeradwyaeth a roddwyd o dan erthygl 17(1) o Orchymyn 2005 neu Orchymyn 2018, yw—
(a)os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben ar neu ar ôl 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar 13 Rhagfyr 2020, neu
(b)os yw’r gymeradwyaeth yn dod i ben cyn 13 Rhagfyr 2020, y cyfnod sy’n dechrau ar y dyddiad cychwyn ac sy’n diweddu ar y dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth i’r gymeradwyaeth ddod i ben.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 54 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
OJ Rhif L 158, 18.6.2008, t. 41.
OJ Rhif L 137, 23.5.2019, t. 15.
O.S. 2006/2695, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90) ac O.S. 2019/734.