RHAN 2LL+CAwdurdodau cymwys: iechyd planhigion

Dynodi awdurdodau cymwysLL+C

6.—(1Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi fel yr awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am drefnu a chyflawni rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yng Nghymru i’r graddau y maent yn ymwneud â’r canlynol—

(a)plâu planhigion, planhigion, plâu coed, coed, deunydd coedwigaeth neu ddeunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth, neu

(b)gweithredwyr proffesiynol coedwigaeth neu weithredwyr proffesiynol eraill.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “coeden” (“tree”) yw coeden neu lwyn byw, neu ran fyw o goeden neu lwyn, ar unrhyw gyfnod yn eu tyfiant;

ystyr “deunydd coedwigaeth” (“forestry material”) yw—

(a)

pren sy’n cadw rhan neu’r cyfan o’i arwyneb crwn naturiol, gyda rhisgl neu hebddo;

(b)

pren ar ffurf sglodion, gronynnau, naddion, blawd llif, gwastraff neu sgrap pren;

(c)

coed conwydd dros 3m o uchder;

(d)

rhisgl sydd wedi ei dynnu neu sydd wedi datgysylltu oddi ar goeden fyw, coeden a gwympwyd neu goeden a syrthiodd, neu oddi ar ran o un o’r rhain;

ystyr “deunydd nad yw’n ddeunydd coedwigaeth” (“non-forestry material”) yw planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill, heblaw deunydd coedwigaeth;

ystyr “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yw pren neu gynhyrchion pren (ac eithrio cynhyrchion papur) a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, i gynnal, diogelu neu gario nwydd o unrhyw fath, gan gynnwys pacin;

ystyr “gweithredwr proffesiynol coedwigaeth” (“forestry professional operator”) yw gweithredwr proffesiynol sy’n cyflawni un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn, ond nid unrhyw weithgareddau eraill a ddisgrifir yn Erthygl 2(9) [F1o’r Rheoliad Iechyd Planhigion]

(a)

cyflwyno deunydd coedwigaeth i Gymru;

(b)

storio, agregu neu symud deunydd coedwigaeth yng Nghymru, symud deunydd coedwigaeth i Gymru o ran arall o [F2Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron] neu symud deunydd coedwigaeth o Gymru i ran arall o [F2Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron] ;

(c)

allforio deunydd coedwigaeth o Gymru i drydedd wlad;

(ca)

[F3cyflwyno deunydd coedwigaeth i Ogledd Iwerddon o Gymru;]

(e)

trin a marcio deunydd pecynnu pren neu ddeunydd coedwigaeth yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15 neu drwsio deunydd pecynnu pren yng Nghymru;

(f)

cyflwyno plâu coed i Gymru, symud plâu coed yng Nghymru neu ddal neu luosi plâu coed yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;

(g)

cyflwyno coed neu ddeunydd coedwigaeth i Gymru neu symud coed neu ddeunydd coedwigaeth yng Nghymru, i’w defnyddio at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau;

ystyr “pla coed” (“tree pest”) yw pla planhigion sy’n niweidiol i goed neu bren.