RHAN 6Cofrestru, awdurdodiadau a thystysgrifau ynglŷn ag iechyd planhigion

Ceisiadau am gofrestruI119

Rhaid i gais am gofrestru yn unol ag Erthygl 66(1) F3o’r Rheoliad Iechyd Planhigion sydd i’w gyflwyno i awdurdod priodol gael ei gyflwyno yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

Ceisiadau eraillI220

1

Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—

a

cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;

b

cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn F4y Rheoliad Iechyd Planhigion

i

Erthygl 64(2),

ii

Erthygl 89(1), neu

iii

Erthygl 98(1);

c

cais am ddyroddi tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio F5neu tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio F6....

2

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan F7y Rheoliad Iechyd PlanhigionF8... neu F9reol iechyd planhigion arall ac sy’n golygu—

    1. a

      cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,

    2. b

      symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,

    3. c

      dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu

    4. d

      lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.

Awdurdodi at ddibenion eraillI321

F11

Caiff yr awdurdod priodol roi awdurdodiad i ganiatáu—

a

cyflawni unrhyw weithgaredd a bennir mewn rhanddirymiad iechyd planhigion,

b

cyflwyno pla planhigion cwarantin posibl i Gymru, symud pla planhigion cwarantin posibl o fewn Cymru, neu ddal neu luosogi pla planhigion cwarantin posibl yng Nghymru, at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dewis neu fridio amrywogaethau, neu

c

cyflawni unrhyw weithgaredd arall y mae cymeradwyaeth yr awdurdod priodol yn ofynnol ar ei gyfer o dan F14, neu yn rhinwedd,F15y Rheoliad Iechyd Planhigion, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol F16, unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu’r Rheoliadau hyn.

2

Rhaid i gais am unrhyw awdurdodiad o’r fath gael ei wneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol.

F23

Ym mharagraff (1)—

  • ystyr “pla planhigion cwarantin posibl” (“potential quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw’n bla cwarantin F13Prydain Fawr neu’n bla cwarantin Prydain Fawr dros dro, ond sydd, ym marn yr awdurdod priodol, yn bodloni’r meini prawf a nodir yn Is-adran 1 o Adran 3 o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw neu y gallai fod yn bodloni’r meini prawf yn Is-adran 2 o’r Adran honno;

  • ystyr “rhanddirymiad iechyd planhigion” (“plant health derogation”) yw—

    1. a

      rhanddirymiad darpariaethau F10y Rheoliad Iechyd Planhigion a nodir F11F20mewn cyfraith a gymathwyd neu reoliadau a wneir o dan F10y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,F12...

    2. b

      F12...

Awdurdodiadau a roddir gan awdurdod priodolI422

1

Rhaid i awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol at ddibenion F17y Rheoliad Iechyd PlanhigionF18neu y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol F19neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt, fod mewn ysgrifen a chaniateir iddo gael ei roi—

a

o dan amodau;

b

am gyfnod amhenodol ynteu am gyfnod penodol.

2

Caiff awdurdodiad a roddir gan awdurdod priodol ganiatáu i’r awdurdod priodol addasu’r awdurdodiad, ei atal dros dro neu ei ddirymu unrhyw bryd drwy hysbysiad ysgrifenedig.