RHAN 8Gofynion o ran hysbysiadau: iechyd planhigion

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â thatws hadydF124

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â ffrwythau sitrwsF2I125

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â phlanhigion a chynhyrchion planhigion eraillI226

1

Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag F4unrhyw bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddoF3... i Gymru, cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru neu heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

F9a

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9b

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9c

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

2

Dyma’r materion—

a

y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd neu, os yw’r llwyth wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y cyrhaeddodd Gymru gyntaf;

b

cyrchfan arfaethedig y llwyth, neu os yw’r llwyth wedi cyrraedd ei gyrchfan arfaethedig yng Nghymru, ei leoliad presennol;

c

genws, rhywogaeth a nifer y F5... pren yn y llwyth;

d

y wlad y traddodwyd neu y traddodir y F7...pren ohoni;

F8e

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F6f

cyfeiriad y traddodwr, ac

g

manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “pren tanwydd solet” yw pren tanwydd ar ffurf logiau, plociau, brigau, ffagodau neu ffurfiau tebyg eraill.