Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 9Pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion a gorfodi

Dehongli

27.—(1Yn y Rhan hon—

mae “deunydd pecynnu pren” (“wood packaging material”) yn cynnwys unrhyw bren neu wrthrych arall y mae’n ofynnol ei drin a’i farcio yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol;

ystyr “nod SRFFf 15” (“ISPM 15 mark”) yw’r nod y cyfeirir ato yn Erthygl 96(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y gellir ei osod ar ddeunydd pecynnu pren i dystio ei fod wedi ei drin yn unol ag Atodiad 1 i SRFFf 15.

(2At ddibenion rheoliadau 32 a 33, mae person yn gosod nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren “yn anghywir” os yw’r person yn gosod y nod heblaw yn y modd a bennir yn Erthygl 96(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, fel y’i darllenir gydag Erthygl 97(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE.

Pwerau mynediad

28.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol at ddiben—

(a)cyflawni rheolaethau swyddogol i ddilysu—

(i)bod gweithredwr yn cydymffurfio â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,

(ii)bod gweithredwr proffesiynol yn cydymffurfio â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE,

(iii)bod person yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, neu

(iv)bod unrhyw blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n destun un o reolau iechyd planhigion yr UE neu i’r gofynion yn Atodlen 1 yn cydymffurfio â’r rheol honno neu’r gofynion hynny;

(b)cyflawni gweithgareddau swyddogol eraill sydd i’w cyflawni gan yr awdurdod priodol yn unol â’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(c)gorfodi’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliadau hyn;

(d)dilysu gwybodaeth a roddwyd gan berson mewn cysylltiad â chais am gofrestriad neu am awdurdodiad neu drwydded a roddwyd, neu sydd i’w rhoi, o dan y Rheoliadau hyn;

(e)canfod a ydys yn cydymffurfio neu a gydymffurfiwyd ag amod mewn awdurdodiad neu drwydded a roddwyd gan awdurdod priodol o dan y Rheoliadau hyn neu at ddiben Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i arolygydd iechyd planhigion ddangos tystiolaeth o’i awdurdod cyn mynd i mewn i unrhyw fangre at y dibenion a bennir ym mharagraff (1).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n mynd i mewn i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—

(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre, unrhyw wrthrych yn y fangre neu unrhyw beth sydd wedi ei atodi i’r fangre neu fel arall yn ffurfio rhan ohoni;

(b)yn achos mangre sy’n cael ei defnyddio i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren, archwilio neu brofi unrhyw gyfleuster trin, peiriannau, offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir i weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren neu arsylwi a monitro’r broses o weithgynhyrchu deunydd pecynnu pren;

(c)cymryd samplau—

(i)o unrhyw bla planhigion neu oddi arno,

(ii)o unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi arnynt, neu

(iii)o unrhyw gynhwysydd, pecyn neu wrthrych sydd wedi bod neu a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall neu oddi ar y rhain;

(d)agor unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn agor y cynhwysydd neu’r pecyn;

(e)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall, neu ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â hwy.

(5Caiff arolygydd iechyd planhigion ddinistrio neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan y rheoliad hwn pan na fydd angen y sampl mwyach.

(6Caiff arolygydd iechyd planhigion—

(a)dod ag—

(i)cynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod cymwys a ddynodwyd o fewn tiriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu

(ii)unrhyw bersonau eraill y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol, a

(b)dod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(7Caiff arolygydd iechyd planhigion sy’n dod â pherson a grybwyllir ym mharagraff (6)(a)(i)—

(a)dangos i’r person unrhyw ddogfennau neu gofnodion a arolygir gan yr arolygydd o dan baragraff (4)(e), a

(b)gwneud copïau, neu ei gwneud yn ofynnol bod copïau yn cael eu gwneud o’r dogfennau neu’r cofnodion hynny ar gyfer y person hwnnw.

(8Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (6)(a)(ii)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw offer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.

Hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir gan ynad heddwch

29.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan reoliad 16(1), 28(1) neu 31(1), gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a

(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2Dyma’r amodau—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre,

(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant yn ddilys am un mis.

(4Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.

Hysbysiadau gwybodaeth

30.—(1Caiff arolygydd iechyd planhigion neu unrhyw swyddog arall i awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth a all fod gan y person ynghylch—-

(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a storiwyd unrhyw bryd yn y fangre a bennir yn yr hysbysiad,

(b)unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b), neu

(c)y personau sydd wedi cael, neu sy’n debygol o fod wedi cael, unrhyw bla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.

(2Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.

(3Rhaid i berson priodol ddangos unrhyw awdurdodiad, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a bennir yn yr hysbysiad i’w harchwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw—

(a)mewn perthynas ag unrhyw fangre a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), person sy’n berchennog, yn feddiannydd neu’n berson arall sydd â gofal am y fangre,

(b)person y mae neu y bu ganddo feddiant o’r canlynol neu ofal amdanynt, neu y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r swyddog amau bod ganddo, neu y bu ganddo feddiant ohonynt neu ofal amdanynt—

(i)pla planhigion a reolir,

(ii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a oedd yn cario pla planhigion a reolir neu a oedd wedi ei heigio neu wedi ei heintio gan bla planhigion a reolir, neu

(iii)unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau eu bod wedi eu mewnforio i Gymru neu wedi eu hallforio ohoni, neu

(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu pla planhigion a reolir, wedi ei gynnig ar werth neu wedi ei waredu fel arall.

Methu â chydymffurfio â hysbysiad

31.—(1Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.

(2Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau eraill (gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd) gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.

(5Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,

(b)dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac

(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.

Tynnu nod SRFFf 15 oddi ar ddeunydd pecynnu pren

32.  Pan fo arolygydd yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod y nod SRFFf 15 wedi ei osod yn anghywir ar ddeunydd pecynnu pren, caiff arolygydd iechyd planhigion dynnu’r nod neu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson arall ei dynnu.

Marcio deunydd pecynnu pren: pŵer ymafael

33.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion yn gwybod, neu pan fo ganddo sail resymol dros amau, bod person wedi gosod yn anghywir, neu’n bwriadu gosod yn anghywir, y nod SRFFf 15 ar ddeunydd pecynnu pren mewn unrhyw fangre yng Nghymru.

(2Caiff yr arolygydd iechyd planhigion ymafael mewn unrhyw stensil, templed neu eitem arall o offer y mae’n ymddangos i’r arolygydd y gellid eu defnyddio i osod y nod SRFFf 15, oddi wrth y person hwnnw neu o’r fangre honno a’u cadw.

(3Os nad yw’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn ei bod yn ymarferol, am y tro, i’r arolygydd ymafael mewn unrhyw eitem a’i symud ymaith, caiff yr arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre sicrhau na chaiff yr eitem ei symud ymaith ac nad ymyrrir â’r eitem fel arall nes y gall yr arolygydd ymafael ynddi a’i symud ymaith.

(4Rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion wneud ymdrechion rhesymol i roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person priodol—

(a)yn nodi’r hyn yr ymafaelwyd ynddo a’r rheswm dros ymafael ynddo;

(b)yn esbonio effaith paragraffau (5) i (12).

(5Caniateir i unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff (2) gael ei chadw gan Weinidogion Cymru am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol o dan yr holl amgylchiadau, ac yn benodol at ddibenion achos cyfreithiol mewn perthynas â throsedd a bennir yn rheoliad 38(1).

(6Caiff Gweinidogion Cymru wneud cais i’r llys ynadon am fforffedu unrhyw eitem a gedwir o dan baragraff (5).

(7Pan wneir cais o dan baragraff (6), caiff y llys orchymyn i’r eitem gael ei fforffedu os yw’r llys wedi ei fodloni—

(a)bod trosedd a bennir yn rheoliad 38(1) wedi ei chyflawni mewn cysylltiad â hi, neu

(b)ei bod wedi ei defnyddio wrth gyflawni trosedd o’r fath.

(8Os yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, caiff Gweinidogion Cymru ei gwaredu ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.

(9Os nad yw’r llys yn gorchymyn i’r eitem gael ei fforffedu, rhaid iddo orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol.

(10Caiff Gweinidogion Cymru adennill oddi ar y person priodol yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt gan Weinidogion Cymru at ddibenion sicrhau bod eitem yn cael ei fforffedu o dan baragraffau (6) i (8).

(11Pan awdurdodwyd cadw unrhyw eitem o dan y rheoliad hwn, ond nad yw hynny wedi ei awdurdodi mwyach—

(a)rhaid i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol;

(b)caiff y person priodol wneud cais i’r llys ynadon am orchymyn i’r eitem gael ei dychwelyd.

(12Pan fo’n ofynnol i’r eitem gael ei dychwelyd i’r person priodol a bod ymdrechion rhesymol wedi eu gwneud, heb lwyddiant, i ddychwelyd yr eitem i’r person hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru waredu’r eitem ym mha ffordd bynnag y credant ei bod yn briodol.

(13Yn y rheoliad hwn—

ystyr “person priodol” yw—

(a)

yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson, y person yr ymafaelwyd yn yr eitem oddi wrtho;

(b)

yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi o fangre, y meddiannydd neu unrhyw berson arall sydd â gofal am y fangre;

(c)

yn achos eitem yr ymafaelwyd ynddi oddi wrth berson neu o fangre nad yw’n perthyn i berson sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), y person y mae’n perthyn iddo ac sy’n haeru perchnogaeth drosti.

(14Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn effeithio ar bwerau arolygydd iechyd planhigion o dan reoliad 32.

Datgelu gwybodaeth a ddelir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi

34.—(1Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth yn eu meddiant i awdurdod priodol at ddibenion galluogi neu gynorthwyo’r awdurdod priodol i gyflawni unrhyw swyddogaeth a roddwyd iddo o dan Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn, neu yn rhinwedd y rhain.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.

Datgelu gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill

35.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgelu gwybodaeth i unrhyw awdurdod cymwys arall mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb at ddibenion Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) yn effeithio ar unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i ddatgelu gwybodaeth neu unrhyw ofyniad arall sydd arnynt i wneud hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources