Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

RhagymadroddLL+C

14.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys os bydd arolygydd iechyd planhigion yn amau bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol, neu os bydd yn dod yn ymwybodol bod pla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol, ar unrhyw fangre yng Nghymru.

(2Yn y Rhan hon—

ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material” yw—

(a)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n cario pla planhigion a reolir, neu sydd wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo, neu a allai fod yn cario pla planhigion a reolir, neu wedi ei heigio neu wedi ei heintio ganddo;

(b)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y gwaherddir mynediad iddynt i [F1Brydain Fawr] o dan un [F2o’r rheolau iechyd planhigion];

(c)

planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae ei symud F3... i Gymru, yng Nghymru neu o Gymru, wedi ei wahardd o dan un [F4o’r rheolau iechyd planhigion];

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, gan gynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofrenfad, cynhwysydd llwythi, wagen reilffordd, trelar neu adeilad neu adeiledd symudol.