- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC” (“Council Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned(1);
ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2));
ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;
ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—
unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un o reolau iechyd planhigion yr UE yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu
pla planhigion a reolir;
ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(3);
ystyr “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018(4);
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—
na chaniateir dod â hwy i diriogaeth yr Undeb heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—
Erthygl 72 neu 74 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE,
penderfyniad brys gan yr UE, neu
unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE, heblaw Erthygl 73 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE, neu
a allforiwyd o diriogaeth yr Undeb i drydedd wlad ac sy’n dychwelyd i diriogaeth yr Undeb ar ôl i’r drydedd wlad honno wrthod mynediad i’r wlad iddynt;
ystyr “penderfyniad brys gan yr UE” (“EU emergency decision”) yw offeryn y cyfeirir ato yn rheoliad 3(1);
ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;
ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn penderfyniad brys gan yr UE, neu
pla planhigion sy’n destun unrhyw un arall o reolau iechyd planhigion yr UE;
ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(5);
ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion(6);
ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys i reolau iechyd planhigion yr UE(7);
ystyr “SRFFf 15” (“ISPM 15”) yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 15 dyddiedig Mawrth 2002 ynghylch Canllawiau ynglŷn â rheoleiddio deunydd pecynnu pren mewn masnach ryngwladol, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(8);
ystyr “un o reolau iechyd planhigion yr UE” (“EU plant health rule”) yw rheol o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol.
(2) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/523 (OJ Rhif L 86, 28.3.2019, t. 41).
O.S. 2005/2517, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/755 (Cy. 90). Ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.
O.S. 2018/1064; ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.
OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1.
OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4, a ddiwygiwyd gan Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).
OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, a ddiwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).
Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion, AGPP-FAO, Viale Delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, Yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/int.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: